Philipiaid 4

4
A.D. 64. —
1 Ar ôl rhybuddion neilltuol, 4 y mae yn myned rhagddo at gynghorion cyffredinol: 10 ac yn dangos pa fodd y llawenychodd efe wrth eu haelioni hwy tuag ato, pan oedd yng ngharchar; nid yn gymaint am iddynt borthi ei anghenion ef, ag am y gras Duw oedd ynddynt hwy: 19 ac felly y mae yn diweddu, gan weddïo, a’u hannerch hwy.
1Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, #2 Cor 1:14; Pen 2:16; 1 Thess 2:19, 20fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. 2Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. 3Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl #Pen 1:27a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd‐weithwyr eraill, #Exod 32:32; Salm 69:28; Dan 12:1; Luc 10:20; Dat 3:5; 20:12; 21:27y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. 4#Pen 3:1; 1 Thess 5:16Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. 5Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. #Heb 10:25; Iago 5:9; 2 Pedr 3:8, 9 Y mae’r Arglwydd yn agos. 6#Salm 55:22; Diar 16:3; Mat 6:25Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. 7A #Ioan 14:27; Rhuf 5:1; Col 3:15thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. 8Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd #4:8 barchedig.onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. 9Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a #Rhuf 15:33; 2 Cor 13:11Duw’r heddwch a fydd gyda chwi. 10Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid #4:10 adnewyddu ohonoch, o ran gofalu amdanaf fi.i’ch #2 Cor 11:9gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond #4:10 yr oeddych heb gael ennyd.eisiau amser cyfaddas oedd arnoch. 11Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod #1 Tim 6:6, 8yn fodlon iddo. 12Ac #1 Cor 4:11; 2 Cor 11:27mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. 13Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i. 14Er hynny, da y gwnaethoch #Pen 1:7gyd‐gyfrannu â’m gorthrymder i. 15A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, #2 Cor 11:8, 9na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig. 16Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid. 17Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio #Rhuf 15:28; Titus 3:14ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi. 18Ond #4:18 mi a dderbyniais bob.y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef #Heb 13:16arogl #4:18 Neu, pereidd‐dra.peraidd, #2 Cor 9:12aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. 19A’m Duw i #Salm 23:1; 2 Cor 9:8a gyflawna eich holl #4:19 eisiau.raid chwi #Eff 1:7; 3:16yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. 20Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 21Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch. 22Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf #Edrych pen 1:13y rhai sydd o deulu Cesar. 23#Rhuf 16:24Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.
At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.

Zur Zeit ausgewählt:

Philipiaid 4: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.