Philipiaid 3

3
A.D. 64. —
1 Y mae efe yn eu rhybuddio i ochelyd gau‐athrawon yr enwaediad; ac, 4 yn dangos fod iddo ef fwy o achos nag iddynt hwy, i hyderu yng nghyfiawnder y ddeddf: 7 yr hyn, er hynny, y mae efe yn ei gyfrif yn dom ac yn golled, er mwyn ennill Crist a’i gyfiawnder; 12 gan gydnabod ei amherffeithrwydd ei hun yn hyn. 15 Y mae yn eu hannog hwy i fod o’r meddwl hwn, 17 ac i’w ddynwared ef; 18 ac i ochelyd ffyrdd Cristonogion cnawdol.
1Weithian, fy mrodyr, #2 Cor 13:11; Pen 4:4byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel. 2Gochelwch gŵn, gochelwch #2 Cor 11:13ddrwg‐weithwyr, gochelwch y cyd‐doriad. 3Canys #Rhuf 2:28, 29; 4:11, 12; Col 2:11yr enwaediad ydym ni, #Ioan 4:23, 24y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: 4Ac #2 Cor 11:18er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: 5#Gen 17:12Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, #2 Cor 11:22o genedl Israel, #Rhuf 11:1o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ôl y ddeddf #Act 23:6; 26:4, 5yn Pharisead; 6#Act 22:3; Gal 1:13, 14Yn ôl sêl, #Act 8:3; 9:1yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn #3:6 ddiachwyn arnaf.ddiargyhoedd. 7Eithr #Mat 13:44y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. 8Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled #Esa 53:11; Jer 9:23, 24; Ioan 17:3; Col 2:2oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, 9Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, #Rhuf 10:5yr hwn sydd o’r gyfraith, ond #Rhuf 1:17; 3:21, 22; Gal 2:16yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: 10Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a #Rhuf 6:3, 4, 5; 2 Cor 4:10, 11; 2 Tim 2:11, 12; 1 Pedr 4:13chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; 11Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw: 12Nid fel pe bawn #1 Tim 6:12wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes #Heb 12:23wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu. 13Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, #Salm 45:10; Luc 9:62gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac #1 Cor 9:24, 26; Heb 6:1ymestyn at y pethau o’r tu blaen, 14Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. 15Cynifer gan hynny ag ydym #1 Cor 2:6; 14:20berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi. 16Er hynny, y peth y daethom ato, #Rhuf 12:16; 15:5cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth. 17#1 Cor 4:16; 11:1; 1 Thess 1:6Byddwch #3:17 gyd‐ddilynwyr.ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis #1 Pedr 5:3yr ydym ni yn siampl i chwi. 18(Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai #Gal 6:12gelynion croes Crist ydynt; 19#2 Cor 11:15Diwedd y rhai yw distryw, #Rhuf 16:18duw y rhai yw eu bol, #Hos 4:7; 2 Cor 11:12; Gal 6:13a’u gogoniant yn eu cywilydd, #Rhuf 8:5y rhai sydd yn synied pethau daearol.) 20Canys #Eff 2:6, 19; Col 3:1, 3ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd #1 Cor 1:7; 1 Thess 1:10; Titus 2:13yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: 21#1 Cor 15:43, 48, 49; Col 3:4Yr hwn a gyfnewidia #3:21 corff ein gwaeledd ni.ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf #3:21 â chorff ei ogoniant ef.â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, #3:21 hefyd, neu, hyd yn nod.#1 Cor 15:26, 27ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.

Zur Zeit ausgewählt:

Philipiaid 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.