Colosiaid 1

1
A.D. 64. —
1 Ar ôl cyfarch iddynt, y mae Paul yn diolch i Dduw am eu ffydd hwy; 7 ac yn cadarnhau dysgeidiaeth Epaffras; 9 yn gweddïo ym mhellach ar iddynt gynyddu mewn gras: 14 yn portreadu y gwir Grist, 21 ac yn eu hannog hwy i dderbyn Iesu Grist; ac yn canmol ei weinidogaeth ei hun.
1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, 2#Eff 1:1At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: #Gal 1:3Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3#Eff 1:16; Phil 1:3; 4:6Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, 4Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; 5Er mwyn y gobaith #1 Pedr 1:4a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: 6Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag #Mat 24:14; Ad. 23 y mae yn yr holl fyd; ac #Marc 4:8; Ioan 15:16sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: 7Megis ag y dysgasoch gan #Pen 4:12; Philem 23Epaffras ein hannwyl gyd‐was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; 8Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich #Rhuf 15:30cariad chwi yn yr Ysbryd. 9#Eff 1:15Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf #1 Cor 1:5eich cyflawni chwi â #Rhuf 12:2gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10#Eff 4:1; Phil 1:27; 1 Thess 2:12Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl #1:11 cadernid ei ogoniant ef.ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o #Act 26:18etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o #Eff 6:12; Heb 2:14; 1 Pedr 2:9feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas #1:13 Mab ei gariad.ei annwyl Fab: 14#Eff 1:7Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15Yr hwn yw #2 Cor 4:4; Heb 1:3delw y Duw anweledig, #Dat 3:14cyntaf‐anedig pob creadur: 16Canys #Ioan 1:3; 1 Cor 8:6; Heb 1:2trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai #1:16 gorseddfeinciau.thronau, ai #Rhuf 8:38; Pen 2:10, 15; 1 Pedr 3:22arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd #Rhuf 11:36trwyddo ef, ac erddo ef. 17#Ioan 1:1, 3; 1 Cor 8:6Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18Ac efe #Eff 1:22yw pen #1:18 y corff, yr eglwys.corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, #Act 26:23; 1 Cor 15:20, 23; Dat 1:5y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym #1:18 mhlith pawb.mhob peth. 19Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder #Ioan 1:16; 3:34ynddo ef; 20#1:20 A chan wneuthur.Ac, #Eff 2:14, 15wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, #2 Cor 5:18trwyddo ef gymodi #Eff 1:10pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21A chwithau, #Eff 2:1, 2, 12y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion #1:21 Neu, trwy feddwl.mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon #1:21 eto.hefyd a gymododd efe, 22#Eff 2:15Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, #Luc 1:75; Eff 1:4; 5:27; Titus 2:14i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron #1:22 ei hun.ef: 23Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd #Ad. 6ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog: 24#2 Cor 7:4Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau #Eff 3:1, 13drosoch, ac yn cyflawni’r #2 Cor 1:5, 6; 2 Tim 1:8; 2:10hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn #Eff 1:23ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys: 25I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl #Eff 3:2goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i #1:25 lenwi, neu, gyflawn bregethu, Rhuf 15:19 gyflawni gair Duw; 26Sef #Rhuf 16:25y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, #Mat 13:11ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef: 27#2 Cor 2:14I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw #Rhuf 9:23; Eff 1:7golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist #1:27 yn eich plith chwi.ynoch chwi, #1 Tim 1:1gobaith y gogoniant: 28Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; #2 Cor 11:2; Eff 5:27fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29#1:29 Yn.Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.

Zur Zeit ausgewählt:

Colosiaid 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.