Philipiaid 2
2
A.D. 64. —
1 Y mae yn eu hannog hwynt i undeb, ac i bob gostyngeiddrwydd meddwl, trwy siampl ufudd‐dod a dyrchafiad Crist; 12 ac i fyned rhagddynt yn ofalus yn ffordd iachawdwriaeth, fel y byddont megis goleuadau i’r byd annuwiol, 16 ac yn ddiddanwch iddo yntau, eu hapostol hwynt, yr hwn sydd bellach barod i’w offrymu i Dduw. 19 Y mae yn gobeithio danfon Timotheus atynt, yr hwn y mae efe yn ei ganmol yn fawr; 25 ac felly Epaffroditus, yr hwn y mae efe ar fedr ei ddanfon atynt yn ddi‐oed.
1Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau, 2Cyflawnwch fy llawenydd; #Rhuf 12:16; 15:5; 1 Cor 1:10; Pen 3:16; 1 Pedr 3:8fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a’r un cariad gennych, yn gytûn, yn synied yr un peth. 3Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr #Rhuf 12:10; 1 Pedr 5:5mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain. 4#1 Cor 10:24; 13:5Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd. 5Canys #Mat 11:29; Ioan 13:15; 1 Pedr 2:21; 1 Ioan 2:6bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: 6Yr hwn, ac #Ioan 1:1, 2; 17:5efe yn ffurf Duw, #Ioan 5:18ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; 7Eithr efe a’i #2:7 gwaghaodd.#Salm 22:6; Esa 53:3; Dan 9:26; Marc 9:12dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd #Esa 42:1; 49:3, 6; 52:13; 53:11; Esec 34:23, 24; Sech 3:8gwas, ac #Ioan 1:14; Rhuf 1:3; Gal 4:4; Heb 2:14, 17a wnaed mewn #2:7 Neu, gosgedd.cyffelybiaeth dynion: 8A’i gael mewn dull fel dyn, efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod #Mat 26:39, 42; Ioan 10:18; Heb 5:8yn ufudd hyd angau, ie, angau’r groes. 9Oherwydd paham, Duw #Ioan 17:1, 2, 5; Heb 2:9a’i tra‐dyrchafodd yntau, ac #Eff 1:21; Heb 1:4a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw; 10#Esa 45:23; Rhuf 14:11; Dat 5:13Fel yn enw Iesu y plygai pob glin, o’r nefolion, a’r daearolion, a thanddaearolion bethau; 11Ac #Ioan 13:13y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. 12Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain #2:12 gydag.trwy ofn a dychryn. 13Canys #2 Cor 3:5; Heb 13:21Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef. 14Gwnewch bob dim #1 Pedr 4:9heb rwgnach ac ymddadlau; 15Fel y byddoch ddiargyhoedd a #2:15 Neu, phurion.diniwed, #Mat 5:45yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych #Mat 5:14yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; 16Yn cynnal gair y bywyd; #2 Cor 1:14; 1 Thess 2:19er gorfoledd i mi #2:16 Neu, hyd ddydd, neu, erbyn dydd.yn nydd Crist, #Gal 2:2; 1 Thess 3:5na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer. 17Ie, a phe #2 Tim 4:6y’m #2:17 haberthid.hoffrymid ar #Rhuf 15:16aberth a gwasanaeth eich ffydd, #2 Cor 7:4; Col 1:24llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. 18Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau. 19Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon #Rhuf 16:21Timotheus ar fyrder atoch, fel y’m cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi. 20Canys nid oes gennyf neb #2:20 mor annwyl i mi.o gyffelyb feddwl, yr hwn #2:20 Neu, yn naturiol a ofala.a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi. 21Canys pawb #1 Cor 10:24, 33; 2 Tim 4:10, 16sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. 22Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl. 23Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi. 24#Pen 1:25; Philem 22Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch. 25Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a’m cyd‐weithiwr, a’m #Philem adn 2cyd‐filwr, ond eich #2:25 apostol.cennad chwi, a #Pen 4:18gweinidog i’m cyfreidiau innau. 26Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf. 27Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch. 28Yn fwy #2:28 gofalus.diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch. 29Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai #2:29 anrhydeddwch.#1 Cor 16:18; 1 Thess 5:12; 1 Tim 5:17gwnewch gyfrif ohonynt: 30Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, #1 Cor 16:17fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o’ch gwasanaeth tuag ataf fi.
Zur Zeit ausgewählt:
Philipiaid 2: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society