Philipiaid 1

1
A.D. 64. —
3 Y mae efe yn tystiolaethu ei ddiolchgarwch i Dduw, a’i serch tuag atynt hwythau, am ffrwythau eu ffydd hwynt, a’u cymdeithas yn ei ddioddefiadau ef: 9 gan weddïo beunydd, ar iddynt gynyddu mewn gras. 12 Y mae yn dangos pa ddaioni a ddaeth i ffydd Crist trwy ei flinderau ef yn Rhufain; 21 ac mor barod ydyw efe i ogoneddu Crist, pa un bynnag ai trwy fywyd ai trwy farwolaeth: 27 gan eu hannog hwy i undeb, 28 ac i fod yn gryfion mewn erlid.
1Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint #1 Cor 1:2yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: 2#Rhuf 1:7; 1 Pedr 1:2Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3#Rhuf 1:8; 1 Cor 1:4; Eff 1:15, 16; Col 1:3; 1 Thess 1:2I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, 4Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, 5Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; 6Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch #Ioan 6:29; 1 Thess 1:3waith da, ei orffen #Ad. 10hyd ddydd Iesu Grist: 7Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, #1:7 am fod gennych fi yn eich calon.am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal #Eff 3:1; 2 Tim 1:8yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, #Pen 4:14yn gyfranogion #1:7 o’m gras.â mi o ras. 8Canys #1 Thess 2:5Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. 9A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10Fel #Rhuf 2:18y profoch y pethau sydd #1:10 ragorol.â gwahaniaeth rhyngddynt; fel #1 Thess 2:13; 5:23y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, #Ioan 15:4, 5; Eff 2:10y rhai sydd trwy Iesu Grist, #Ioan 15:8; Eff 1:12, 14er gogoniant a moliant i Dduw. 12Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13Yn gymaint â bod fy rhwymau i #1:13 o achos Crist.yng Nghrist yn eglur yn #1:13 Sef, llys Cesar.yr holl lys, ac #1:13 i bawb eraill.ym mhob lle arall; 14Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn. 15Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. 16Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: 17A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. 18Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. 19Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, #2 Cor 1:11trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy #Rhuf 8:9Ysbryd Iesu Grist, 20Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, #Rhuf 5:5na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. 21Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23Canys #2 Cor 5:8; 2 Tim 4:6y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer #1:23 mwy.iawn gwell ydyw. 24Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25A #Pen 2:24chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26Fel y byddo #2 Cor 1:14; 5:12eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. 27Yn unig #Eff 4:1; Col 1:10; 1 Thess 2:12; 4:1ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan #Jwdas 3gydymdrech #1:27 Neu, dros, neu, trwy.gyda ffydd yr efengyl; 28Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: #2 Thess 1:5yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, #Rhuf 8:17; 2 Tim 2:11ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. 29Canys i chwi #Act 5:41y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; 30Gan fod i chwi yr un ymdrin #Act 16:19, &cag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.

Zur Zeit ausgewählt:

Philipiaid 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.