Logo der Bibel App
Suchsymbol

Iago 1

1
A.D. cylch 60. —
2 Cyngor i lawenychu mewn blinder: 5 i ofyn doethineb gan Dduw: 13 na fwrier y bai arno ef o ran ein gwendid na’n pechodau ni: 22 i wrando ac i fyfyrio ar air Duw; ac i wneuthur ar ei ôl: 26 os amgen, fe all rhai ymddangos yn grefyddol oddi allan, ond ni allant fod felly mewn gwirionedd.
1Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth #Deut 32:26; Ioan 7:35; Act 8:1; 1 Pedr 1:1sydd ar wasgar, annerch. 2#Mat 5:12; Act 5:41; Heb 10:34Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; 3#Rhuf 5:3; 1 Pedr 1:6Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. 4Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. 5#Diar 2:3O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, #Mat 7:7; 21:22; Marc 11:24; Luc 11:9; Ioan 14:13; 15:7; 16:23gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn #1:5 rhwydd.haelionus i bawb, ac heb ddannod; a #Jer 29:12; 1 Ioan 5:14hi roddir iddo ef. 6Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. 7Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. 8Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. 9Y brawd o radd isel, #1:9 ymffrostied.llawenyched yn ei oruchafiaeth: 10A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys #Job 14:2; Salm 103:15; Esa 40:6; 1 Cor 7:31; 1 Pedr 1:24; 1 Ioan 2:17megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. 11Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. 12#Job 5:17; Diar 3:11, 12; Heb 12:5; Dat 3:19Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn #1 Cor 9:25; Pen 2:5; 1 Pedr 5:4; Dat 2:10goron y bywyd, #Mat 10:22; 19:28, 29yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. 13Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â #1:13 drwg.drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. 14Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. 15Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. 16Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch. 17#Ioan 3:27; 1 Cor 4:7Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, #Mal 3:6gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. 18#Ioan 1:13; 3:3; 1 Cor 4:15; 1 Pedr 1:23O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw #Jer 2:3; Dat 14:4flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. 19O achos hyn, fy mrodyr annwyl, #Preg 5:1bydded pob dyn esgud i wrando, #Diar 17:27diog i lefaru, #Preg 7:9diog i ddigofaint: 20Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. 21Oherwydd paham #Col 3:8; 1 Pedr 2:1rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. 22A #Mat 7:21; Luc 11:28; Rhuf 2:13byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. 23Oblegid #Luc 6:47, &c; Edrych pen 2:14, &cos yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych: 24Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. 25Eithr #2 Cor 3:18yr hwn a edrych ar berffaith #Pen 2:12gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, #Ioan 13:17 efe a fydd dedwydd yn ei #1:25 weithrediad.weithred. 26Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, #1:26 ffrwyno.#Salm 34:13; 39:1; 1 Pedr 3:10heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. 27Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.

Zur Zeit ausgewählt:

Iago 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.