Hebreaid 13
13
A.D. 64. —
1 Amryw gynghorion; megis i garu ein gilydd: 4 i fyw yn onest: 5 i ochelyd cybydd‐dra: 7 i barchu pregethwyr Duw: 9 i ochel athrawon dieithr: 10 i gyfaddef Crist: 16 i roi elusen: 17 i ufuddhau i swyddogion: 18 i weddïo dros yr apostol. 20 Y diwedd.
1Parhaed #Rhuf 12:10; 1 Pedr 1:22; 2:17; 4:8brawdgarwch. 2#Rhuf 12:13; 1 Pedr 4:9Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny #Gen 18:3; 19:2y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. 3#Mat 25:36; Rhuf 12:15; 1 Cor 12:26Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. 4Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. 5Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; #Mat 6:25, 34; Phil 4:11, 12; 1 Tim 6:6, 8gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, #Deut 31:6, 8; Jos 1:5; 1 Cron 28:20Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: 6Fel y gallom ddywedyd yn hy, #Salm 56:4, 11, 12; 118:6Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 7#Ad. 17Meddyliwch am eich #13:7 llywodraethwyrblaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. 8Iesu Grist, ddoe a heddiw #Ioan 8:58; Pen 1:12; Dat 1:4yr un, ac yn dragywydd. 9#Eff 4:14; 5:6; 1 Ioan 4:1Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, #Rhuf 14:17; Col 2:16; 1 Tim 4:3nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11Canys #Exod 29:14; Lef 4:11, 12, 21; 6:30; 16:27; Num 19:3cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, #Ioan 19:17, 18; Act 7:58a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn #Pen 11:26ei waradwydd ef. 14#Micha 2:10; Phil 3:20; Pen 11:10, 16Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15#Eff 5:20; 1 Pedr 2:5Trwyddo ef gan hynny offrymwn #Lef 7:12; Salm 50:14, 23; 69:30, 31; 107:22aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw #Hos 14:2ffrwyth ein gwefusau yn #13:15 clodfori eicyffesu i’w enw ef. 16Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys #Phil 4:18â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. 17#Phil 2:29; 1 Thess 5:12; 1 Tim 5:17; Ad. 7Ufuddhewch i’ch #13:17 llywodraethwyrblaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid #Esec 3:17; 33:2, 7y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn #13:18 ddaonest ym mhob peth. 19Ond yr ydwyf #Philem 22yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20A Duw’r heddwch, #Act 2:24yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, #Esa 40:11; Esec 34:23; Ioan 10:11; 1 Pedr 2:25; 5:4Bugail mawr y defaid, #Sech 9:11trwy waed y #13:20 Neu testamentcyfamod tragwyddol, 21#Phil 2:13; 1 Pedr 5:10A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan #13:21 wneuthurweithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 22Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau #1 Pedr 5:12yr #13:22 anfonaisysgrifennais atoch. 23Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi. 24Anerchwch eich holl #13:24 lywodraethwyrflaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch. 25Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 13: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society