Iago 2
2
A.D. cylch 60. —
1 Nad gweddus i Gristonogion ddiystyru eu brodyr tlodion, 13 ond bod yn gariadus ac yn drugarog. 14 Na ddylid ymffrostio o ffydd lle ni byddo gweithredoedd da: 17 nad yw y ffydd honno ond ffydd farw, 19 a ffydd y cythreuliaid; 21 ac nid ffydd Abraham, 25 a Rahab.
1Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda #Lef 19:15; Deut 1:17; 16:19; Diar 24:23; Mat 22:16; Ad. 9derbyn wyneb. 2Oblegid os daw i mewn i’ch #2:2 synagog.cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; 3Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma #2:3 yn dda.mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: 4Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? 5Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; #Ioan 7:48; 1 Cor 1:26, 28Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn #Luc 12:21; 1 Tim 6:18; Dat 2:9yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas #Exod 20:6; 1 Sam 2:30; Diar 8:17; Mat 5:3; Pen 1:12yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? 6Eithr #1 Cor 11:22chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? 7Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? 8Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, #Lef 19:18; Mat 22:39Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: 9Eithr #Ad. 1os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, #Deut 27:26; Mat 5:19; Gal 3:10y mae efe yn euog o’r cwbl. 11Canys y #2:11 Neu, gyfraith.neb a ddywedodd, #Exod 20:13, 14Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth #Pen 1:25gyfraith rhyddid. 13Canys #Mat 6:15; 18:35; 25:41, 42barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac #1 Ioan 4:17, 18y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. 14#Mat 7:26; Pen 1:23Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15Eithr #Edrych Luc 3:11os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16A #1 Ioan 3:18dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi #2:17 Gr. wrthi ei hun.yn unig. 18Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di #2:18 Neu, wrth.heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: #Marc 1:24y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, #Gen 22:9, 12pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22#2:22 Neu, A weli di?Ti a weli #Heb 11:17fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, #Gen 15:6; Rhuf 4:3; Gal 3:6Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a #2 Cron 20:7; Esa 41:8Chyfaill Duw y galwyd ef. 24Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25Yr un ffunud hefyd, #Jos 2:1; Heb 11:31Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26Canys megis y mae’r corff heb yr #2:26 anadl.ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
Zur Zeit ausgewählt:
Iago 2: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society