Hebreaid 9
9
A.D. 64. —
1 Y mae yn dangos dull seremonïau ac aberthau gwaedlyd y gyfraith; 11 a’u bod yn llai eu teilyngdod a’u perffeithrwydd nag aberth Crist a’i waed.
1Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf #9:1 seremonïauddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol. 2Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; #Exod 40:4y cyntaf, #Exod 26:35yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r #Exod 25:30bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y #9:2 Neu, sanctaiddcysegr. 3Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf; 4Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac #Exod 25:10; 26:33arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd #Exod 16:33, 34y crochan aur a’r manna ynddo, #Num 17:10a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a #Exod 25:21; Deut 10:2, 5; 1 Bren 8:9; 2 Cron 5:10llechau’r cyfamod: 5Ac #Exod 25:18, 22uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. 6A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, #Num 28:3i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw: 7Ac i’r ail, #Exod 30:10; Lef 16:2, 15, 34; Ad. 25unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl. 8#Pen 10:19, 20A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, #Ioan 14:6nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll: 9Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, #Pen 7:18; 10:1y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio yr addolydd; 10Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar #Lef 11:2fwydydd, a diodydd, ac #Num 19:7, &camryw olchiadau, a #9:10 seremonïaudefodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad. 11Eithr Crist, wedi dyfod #Pen 3:1yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma; 12Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr #Act 20:28; Eff 1:7; 1 Pedr 1:19; Dat 1:5; 5:9trwy ei waed ei hun, a aeth #Sech 3:9; Ad. 26, 28unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad. 13Oblegid os ydyw #Lef 16:14, 16gwaed teirw a geifr, a #Num 19:2, 17, &clludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; 14Pa faint mwy y bydd i #1 Pedr 1:19; 1 Ioan 1:7; Dat 1:5waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, #Pen 10:22buro eich cydwybod chwi oddi wrth #Pen 6:1weithredoedd meirwon, #Luc 1:74; 1 Pedr 4:2i wasanaethu’r Duw byw? 15Ac am hynny #Pen 7:22; 8:6y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, #Rhuf 5:6; 1 Pedr 3:18megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. 16Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. 17Canys #Gal 3:15wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw. 18O ba achos ni #9:18 phurwydchysegrwyd y cyntaf heb waed. 19Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, #Exod 24:5, 6; Lef 16:14, 15, 18efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll, 20Gan ddywedyd, #Exod 24:8; Mat 26:28Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi. 21#Exod 29:12, 36; Lef 8:15; 16:14, 16Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd. 22A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac #Lef 17:11heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. 23Rhaid oedd gan hynny i bortreadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn. 24Canys #Pen 6:20nid i’r cysegr o waith llaw, portread y #Pen 8:2gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, #Rhuf 8:34; Pen 7:25i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: 25Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis #Ad. 7y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall: 26(Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron #Ad. 12; 1 Pedr 3:18unwaith #1 Cor 10:11; Eff 1:10yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun. 27Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn: 28Felly #Rhuf 6:10; 1 Pedr 3:18Crist hefyd, #1 Pedr 2:24wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau #Mat 26:28; Rhuf 5:15; 1 Ioan 3:5llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 9: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society