Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 8

8
A.D. 64. —
1 Offeiriadaeth Aaron a ddiflannodd, pan ddaeth Crist yr Offeiriad tragwyddol: 7 a’r amod a wnaed â’r tadau dros amser, a roddes le i gyfamod tragwyddol yr efengyl.
1 # 8:1 Swm y pethau a ddywedwyd yw hyn A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, #Pen 1:3; 10:12; 12:2yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; 2Yn Weinidog #Pen 9:8, 12, 24y #8:2 pethau sanctaiddgysegrfa, a’r #Pen 9:11gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. 3Canys #Pen 5:1pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham #Eff 5:2rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. 4Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; #8:4 tra fyddaigan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf: 5Y rhai sydd yn gwasanaethu i #8:5 bortreadsiampl a #Col 2:17; Pen 10:1chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y #8:5 tabernaclbabell: #Exod 25:40; Act 7:44canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portread a ddangoswyd i ti yn y mynydd. 6Ond yn awr #2 Cor 3:6; Pen 7:22efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr #8:6 Neu, testamentcyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell. 7Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail. 8Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, #Jer 31:31–34Wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd: 9Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a’u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. 10Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a #8:10 roddafddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac #8:10 Neu, aryn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a #Sech 8:8mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl: 11Ac #Ioan 6:45; 1 Ioan 2:27ni ddysgant bob un ei #8:11 Gr. ddinesyddgymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt‐hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt. 12Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach. 13Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 8: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.