Hebreaid 10
10
A.D. 64. —
1 Gwendid aberthau y gyfraith, 10 Aberth corff Crist a offrymwyd unwaith, 14 sydd byth yn tynnu ymaith bechodau. 19 Cyngor i lynu yn lew yn y ffydd trwy amynedd a diolch.
1Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi #Col 2:17; Pen 8:5; 9:23gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, #Pen 9:9nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. 2Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. 3Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. 4Canys #Pen 9:13amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. 5Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, #Salm 40:6, &c; Esa 1:11; Jer 6:20; Amos 5:21Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a #10:5 ddarperaistgymhwysaist i mi: 6Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. 7Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. 8Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; 9Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. 10Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, #Pen 9:12trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. 11Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12#Pen 1:3Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros #10:12 bechodau yn dragywydd, a eisteddoddbechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13O hyn allan yn disgwyl #Salm 110:1; 1 Cor 15:25; Pen 1:13hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. 15Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16#Jer 31:33, 34; Pen 8:10, 12Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17#10:17 Yna y dywedodd, A’u, & c.A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. 19Am hynny, frodyr, gan fod i ni #10:19 hyfder#Eff 2:18; 3:12ryddid i fyned i mewn i’r #Pen 9:8, 12cysegr trwy waed Iesu, 20Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a #10:20 adnewyddoddgysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21A bod i ni #Pen 4:14, 16Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22Nesawn â chalon gywir, #Eff 3:12; Iago 1:6; 1 Ioan 3:21mewn llawn hyder ffydd, #Pen 9:14wedi #10:22 taenelluglanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a #Esec 36:25golchi ein corff â dwfr glân. 23#Pen 4:14Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys #1 Cor 1:9; 1 Thess 5:24ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25Heb #10:25 wrthodesgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a #Rhuf 13:11hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled #2 Pedr 3:9, 11, 14y dydd yn nesáu. 26#Num 15:30; Pen 6:4Canys os o’n gwirfodd y pechwn, #2 Pedr 2:20, 21ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac #Esec 36:5; Seff 1:18; 3:8; 2 Thess 1:8angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28#Mat 18:16; Ioan 8:17; 2 Cor 13:1Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29Pa faint #10:29 gwaethmwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac #1 Cor 11:29a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, #Deut 32:35; Rhuf 12:19Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, #Deut 32:36; Salm 50:4Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32Ond #Gal 3:4; 2 Ioan 8gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch #Phil 1:29; Col 2:1ymdrech mawr o helbulon: 33Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau #Phil 1:7; 4:14yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac #Act 5:41a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan #10:34 wybod ynoch eich hunain fod gennych olud, & c.wybod #Mat 6:20; 19:21; Luc 12:33; 1 Tim 6:19fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, #Mat 10:32yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37Oblegid #Luc 18:8; 2 Pedr 3:9ychydig bachigyn eto, #Hab 2:3, 4a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38#Rhuf 1:17; Gal 3:11A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 10: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society