Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 5

5
A.D. 64. —
1 Awdurdod a braint offeiriadaeth ein Hachubwr. 11 Y mae efe yn beio arnynt, am eu bod mor esgeulus ac mor ddiwybod yn y pethau hynny.
1Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, #Pen 8:3a osodir dros ddynion #Pen 2:17yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2#Pen 2:18; 4:15Yr hwn a ddichon #5:2 gyd‐ddwyn â’r rhaidosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod #Pen 7:28yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3Ac #Lef 9:7; 16:6, 17; Pen 7:27o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4#2 Cron 26:18Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis #Exod 28:1; 1 Cron 23:13Aaron. 5#Ioan 8:54Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, #Pen 1:5Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, #Salm 110:4; Pen 7:17Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, #Salm 22:1trwy lefain cryf a dagrau, #Mat 26:39, 42, 44; 27:46, 50; Ioan 17:1offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn #Mat 26:53; Marc 14:36oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando #5:7 o achos ei dduwioldeb#Mat 26:37; Marc 14:33; Luc 22:43; Ioan 12:27yn yr hyn a ofnodd; 8Er ei fod yn Fab, a ddysgodd #Phil 2:8ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9Ac #Pen 2:10wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn #5:9 achosAwdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhânt iddo; 10Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. 11Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi #Mat 13:15yn hwyrdrwm eich clustiau. 12Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth #1 Cor 3:1, 2, 3laeth, ac nid bwyd cryf. 13Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys #1 Cor 14:20; Eff 4:14maban yw. 14Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai #5:14 mewn oedranperffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 5: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.