Hebreaid 4
4
A.D. 64. —
1 Trwy ffydd y mae cael gorffwysfa y Cristonogion. 12 Gallu gair Duw. 14 Trwy ein Harchoffeiriad Iesu, Mab Duw, yr hwn oedd heb bechod, ond nid heb ei wendid, 16 y mae i ni gyrchu yn hŷf at orseddfainc y gras.
1Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. 2Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a #4:2 bregethwydglybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, #4:2 oherwydd nad oeddynt wedi eu huno trwy ffydd i’w glywedam nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant. 3Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, #Salm 95:11Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. 4Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; #Gen 2:2; Exod 31:17A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. 5Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i. 6Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd #4:6 yr efengyl ynyn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd #4:6 anufudd‐dodanghrediniaeth; 7Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, #Salm 95:7; Pen 3:7Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau. 8Canys pe dygasai #4:8 Sef, JosuaJesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall. 9Y mae gan hynny #4:9 gadw Sabothorffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. 10Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. 11Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o #4:11 anufudd‐dodanghrediniaeth. 12Canys #2 Cor 10:4, 5bywiol yw gair Duw, a nerthol, a #Diar 5:4llymach nag un cleddyf #Dat 1:16; 2:16daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac #1 Cor 14:24yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. 13Ac #Salm 33:13, 14; 90:8; 139:11, 12nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn. 14Gan fod wrth hynny i ni #Pen 3:1Archoffeiriad mawr, #Pen 7:26; 9:12, 24yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, #Pen 10:23glynwn yn ein proffes. 15Canys #Pen 2:18nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni; ond #Luc 22:28wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, #2 Cor 5:21 eto heb bechod. 16Am hynny #Eff 2:18; 3:12; Pen 10:19, 21, 22awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras #4:16 i’n cymorth mewn prydyn gymorth cyfamserol.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 4: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society