Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 6

6
A.D. 64. —
1 Y mae yn eu cynghori hwy na chilient oddi wrth y ffydd; 11 ond bod yn ddianwadal, 12 yn ddiwyd, ac yn ddioddefgar i ddisgwyl wrth Dduw. 13 am fod Duw yn sicr yn ei addewid.
1Am hynny, #Phil 3:13, 14; Pen 5:12gan roddi heibio yr #6:1 ymadrodd dechreuad Crist, neu, egwyddorion athrawiaeth Cristymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth #Pen 9:14weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, 2I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol. 3A hyn a wnawn, #Act 18:21os caniatâ Duw. 4Canys #Mat 12:31, 32; Pen 10:26; 2 Pedr 2:21; 1 Ioan 5:16amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant #Ioan 4:10y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân, 5Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd #Pen 2:5y byd a ddaw, 6Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei #6:6 wneuthur yn esiamplosod yn watwar. 7Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi #6:7 iddyntganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: 8Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi. 9Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn. 10#Diar 14:31; Mat 10:42; 25:40; Ioan 13:20Canys #Rhuf 3:4; 2 Thess 1:6, 7nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio #1 Thess 1:3eich gwaith, #6:10 a llafur y cariada’r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. 11Ac yr ydym yn chwennych fod i #Pen 3:6, 14bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd: 12Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion. 13Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, #Gen 22:16, 17a dyngodd iddo ei hun, 14Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a #Exod 22:11llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, #6:17 a’i sicrhaodda gyfryngodd trwy lw: 18Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20#Pen 9:24I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, #Pen 3:1; 7:17yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 6: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.