Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 3

3
A.D. 64. —
1 Bod Crist yn rhagori ar Moses: 7 am hynny oni chredwn ni iddo ef, yr ydym yn haeddu ychwaneg gosbedigaeth na’r Israeliaid gwrthnysig.
1Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r #Phil 3:14galwedigaeth nefol, ystyriwch #Rhuf 15:8; Pen 4:14; 6:20; 8:1; 9:11Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; 2Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i #3:2 gwnaeth 1 Sam 12:6 hordeiniodd ef, megis ag y bu #Num 12:7Moses yn ei holl dŷ ef. 3Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag #Sech 6:12; Mat 16:18y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. 4Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond #Eff 2:10yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. 5A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; 6Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: #1 Cor 3:16; 6:19; 2 Cor 6:16; Eff 2:21, 22; 1 Tim 3:15; 1 Pedr 2:5tŷ yr hwn ydym ni, #Ad. 14; Mat 24:13; Rhuf 5:2; Pen 6:11os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd. 7Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, #Ad. 15; Salm 95:7; Pen 4:7Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, 8Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: 9Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. 10Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: 11Fel y tyngais yn fy llid, #3:11 Gr. os cântna chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. 12Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. 13Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. 14Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, #Ad. 6os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; 15Tra dywedir, #Ad. 7Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. 16Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. 17Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, #Num 14:22, 29, &c; 26:65; Jwdas 5y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? 18Ac #Num 14:30; Deut 1:34, 35wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai #3:18 nid ufuddhasantni chredasant? 19Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.