Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 2

2
A.D. 64. —
1 Y dylem ni fod yn ufudd i Grist Iesu; 5 gan fod yn wiw ganddo ef gymryd ein naturiaeth ni arno, 14 fel yr oedd yn anghenraid.
1Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni #2:1 Gr. ollwng fel llestri candryll eu gollwng hwy i golli. 2Canys os bu gadarn y gair #Act 7:53; Gal 3:19a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd #Deut 27:26pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth; 3#Pen 12:25Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, #Mat 4:17; Marc 1:14yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, #Luc 1:2a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef: 4#Marc 16:20; Act 14:3 A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a #2:4 rhaniadau#1 Cor 12:4, 7, 11doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun? 5Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe #Pen 6:5; 2 Pedr 3:13y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. 6Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, #Salm 8:4, &cPa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? 7Ti a’i gwnaethost ef ychydig #2:7 amser yn isis na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: 8#1 Cor 15:27; Eff 1:22; Pen 1:13Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron #1 Cor 15:25nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. 9Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, #Phil 2:7, 8, 9yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, #2:9 trwy ddioddefoherwydd dioddef marwolaeth, #Act 2:33wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth #Ioan 12:32; Rhuf 5:18dros bob dyn. 10Canys gweddus oedd iddo ef, #Rhuf 11:36oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, #Pen 5:9berffeithio #Act 3:15; 5:31Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. 11Canys #Pen 10:10, 14yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, #Act 17:26o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; 12Gan ddywedyd, #Salm 22:22, 25Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys #2:12 y canaf emynau i tiy’th folaf di. 13A thrachefn, #Salm 18:2Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, #Esa 8:18Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi. 14Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, #Ioan 1:14; Phil 2:7yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; #1 Cor 15:54, 55; Col 2:15; 2 Tim 1:10fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; 15Ac y gwaredai hwynt, y rhai #Rhuf 8:15trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. 16Canys #2:16 Gr. nid yw yn cymryd gafael ar angylion, eithr ar had Abraham y mae efe yn cymryd gafaelni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe. 17Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai #Pen 4:15; 5:1, 2drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. 18Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 2: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.