Logo der Bibel App
Suchsymbol

Hebreaid 1

1
A.D. 64. —
1 Duw yn y dyddiau diwethaf a lefarodd wrthym ni trwy ei Fab ei hun; 4 yr hwn, o ran ei berson a’i swydd, sydd yn rhagori ar yr angylion. 14 Swydd yr angylion.
1Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a #Num 12:6, 8llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, #Gal 4:4yn y dyddiau diwethaf hyn #Ioan 15:15a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; 2#Salm 2:8; Mat 21:38Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, #Ioan 1:3; 1 Cor 8:6; Col 1:16trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: 3#2 Cor 4:4; Col 1:15Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac #Ioan 1:4; Col 1:17; Dat 4:11yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, #Pen 9:12, 14, 26wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, #Salm 110:1; Eff 1:20; Pen 10:12a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; 4Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag #Eff 1:21; Phil 2:9, 10yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy. 5Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, #Salm 2:7; Act 13:33; Pen 5:5Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, #2 Sam 7:14; 1 Cron 22:10; Salm 89:26, 27Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? 6#1:6 Pan ddyco drachefn yA thrachefn, pan yw yn dwyn #Rhuf 8:29y Cyntaf‐anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, #Salm 97:7Ac addoled holl angylion Duw ef. 7Ac #1:7 Gr. wrtham yr angylion y mae yn dywedyd, #Salm 104:4Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. 8Ond wrth y Mab, #Salm 45:6, 7Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen #1:8 Gr. i uniondebuniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. 9Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10Ac, #Salm 102:25, &cTydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11#Esa 34:4; 51:6; 2 Pedr 3:7, 10Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, #Salm 110:1; Ad. 3Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14#Salm 34:7; 91:11; 103:20, 21; Dan 7:10; Mat 18:10Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?

Zur Zeit ausgewählt:

Hebreaid 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.