Hebreaid 12
12
A.D. 64. —
1 Cyngor i ffydd ddianwadal, amynedd, a duwioldeb. 22 Canmol y testament newydd rhagor yr hen.
1Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, #1 Pedr 2:1gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, #Rhuf 12:12; Pen 10:36trwy amynedd #1 Cor 9:24rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; 2Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; #Luc 24:26; Phil 2:8, &cyr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac #Salm 110:1; Pen 1:3, 13; 8:1a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. 3Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. 4#Pen 10:33, 34Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. 5A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, #Job 5:17; Diar 3:11Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: 6Canys #Dat 3:19y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. 7Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8Eithr os heb gerydd yr ydych, #Salm 73:1; 1 Pedr 5:9o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i #Num 16:22; 27:16; Preg 12:7; Esa 57:16; Sech 12:1Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi #Iago 3:18heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12Oherwydd paham #Job 4:3, 4; Esa 35:3cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13A gwnewch lwybrau #12:13 gwastadunion i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach. 14#Rhuf 12:18; 2 Tim 2:22Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, #Mat 5:8heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd: 15#2 Cor 6:1Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn #12:15 cwympopallu oddi wrth ras Duw; #Deut 29:18; Pen 3:12rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer; 16#Eff 5:3; Col 3:5Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, #Gen 25:33yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint. 17Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, #Gen 27:36, 38pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe #12:17 ffordd i newid ei feddwlle i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi. 18Canys ni ddaethoch chwi at #Exod 19:12, 18, 19y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, 19A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a #Exod 20:19; Deut 5:5, 25; 18:16ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: 20(Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; #Exod 19:13Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. 21Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) 22Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, #Gal 4:26; Dat 3:12; 21:2, 10y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, 23I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig, #Luc 10:20; Phil 4:8y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, 24Ac at Iesu, #Pen 8:6; 9:15Cyfryngwr y #12:24 cyfamodtestament newydd, a #Exod 24:8; Pen 10:22; 1 Pedr 1:2gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell #Gen 4:10; Pen 11:4na’r eiddo Abel. 25Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid #Pen 2:2; 3:17; 10:28oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: 26#Exod 19:18Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, #Hag 2:6Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. 27A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu #Salm 102:26; Mat 24:35; 2 Pedr 3:10; Dat 21:1symudiad y pethau a #12:27 Neu, ellir eu hysgwydysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. 28Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: 29Oblegid #Deut 4:24; 9:3ein Duw ni sydd dân ysol.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 12: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society