Hebreaid 11
11
A.D. 60. —
1 Beth ydyw ffydd. 6 Heb ffydd ni allwn ni ryngu bodd Duw. 7 Ei ffrwythau rhagorol hi yn yr hen dadau gynt.
1Ffydd yn wir yw #11:1 hanfodsail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd #Rhuf 8:24, 25; 2 Cor 5:7y pethau nid ydys yn eu gweled. 2Oblegid #Ad. 39trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. 3Wrth ffydd yr ydym yn deall #Gen 1:1; Salm 33:6; Ioan 1:3; Pen 1:2; 2 Pedr 3:5wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. 4Trwy ffydd #Gen 4:4yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, #Gen 4:10; Mat 23:35; Pen 12:24#11:4 eto a llefaru amdanoyn llefaru eto. 5Trwy ffydd #Gen 5:24y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7Trwy ffydd, #Gen 6:13Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn #1 Pedr 3:20a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd #Rhuf 3:22; 4:13; Phil 3:9y cyfiawnder sydd o ffydd. 8Trwy ffydd, #Gen 12:1, 4Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, #11:8 i fynedgan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. 9Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10Canys disgwyl yr ydoedd am #Pen 12:22; 13:14ddinas ag iddi sylfeini, #Pen 3:4; Dat 21:2saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11Trwy ffydd #Gen 17:19; 21:2Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, #Edrych Luc 1:36a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a #Rhuf 4:19hwnnw yn gystal â marw, #Gen 22:17; Rhuf 4:18 cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. 13#11:13 Neu, Yn ôl ffyddMewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr #Ad. 27o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a #Gen 23:4; 47:9; 1 Cron 29:15; Salm 39:12; 119:19; 1 Pedr 1:17; 2:11chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. 14Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. 15Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o’r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: 16Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw #Exod 3:6; Mat 22:32; Act 7:32ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt. 17Trwy ffydd #Gen 22:1, 9yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai’r addewidion: 18#11:18 AmWrth yr hwn y dywedasid, #Gen 21:12; Rhuf 9:7Yn Isaac y gelwir i ti had: 19Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth. 20Trwy ffydd #Gen 27:27, 39y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent. 21Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, #Gen 48:5, 16, 20a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac #Gen 47:31a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon. 22Trwy ffydd, #Gen 50:24, 25Joseff, wrth farw, a #11:22 gofioddgoffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn. 23Trwy ffydd, #Exod 2:2; Act 7:20Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant #Exod 1:16, 22orchymyn y brenin. 24Trwy ffydd, #Exod 2:10, 11Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25#Salm 84:10Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26Gan farnu yn fwy golud #Pen 13:13ddirmyg #11:26 er CristCrist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. 27Trwy ffydd #Exod 10:28, 29; 13:17, 18y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un #Ad. 13yn gweled yr anweledig. 28Trwy ffydd #Exod 12:21, &cy gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt. 29Trwy ffydd #Exod 14:22yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant. 30Trwy ffydd #Jos 6:20y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. 31Trwy ffydd #Jos 6:23; Iago 2:25ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai #11:31 anufuddni chredent, pan #Jos 2:1dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol. 32A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am #Barn 6:11Gedeon, am #Barn 4:6Barac, ac am #Barn 13:24Samson, ac am #Barn 11:1; 12:7Jefftha, am #1 Sam 16:13; 17:45Dafydd hefyd, a #1 Sam 1:20; 12:20Samuel, a’r proffwydi; 33Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, #Barn 14:5; 1 Sam 17:34; Dan 6:22a gaeasant safnau llewod, 34#Dan 3:25A ddiffoddasant angerdd y tân, #1 Sam 20:1; 1 Bren 19:3; 2 Bren 6:16a ddianghasant rhag min y cleddyf, #2 Bren 20:7; Job 42:10; Salm 6:8a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. 35#1 Bren 17:22; 2 Bren 4:35Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac #Act 22:25eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell. 36Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, #Jer 20:2trwy rwymau hefyd a charchar: 37#1 Bren 21:13Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf; #2 Bren 1:8; Mat 3:4a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; 38(Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. 39A’r rhai hyn oll, #Ad. 2wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid: 40Gan fod Duw yn rhagweled #Pen 7:22; 8:6rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.
Zur Zeit ausgewählt:
Hebreaid 11: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society