Colosiaid 4

4
A.D. 64. —
1 Y mae yn eu hannog i fod yn wresog mewn gweddi; 5 i rodio yn ddoeth tuag at y rhai ni ddaethant eto i wir wybodaeth am Grist: 10 yn eu hannerch hwy, ac yn ewyllysio iddynt bob rhyw lwyddiant.
1 # Eff 6:9 Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd. 2#Luc 18:1; Rhuf 12:12; Eff 6:18; 1 Thess 5:17Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi #4:2 mewn diolchgarwch.gyda diolchgarwch; 3#Eff 6:19; 2 Thess 3:1Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw #1 Cor 16:9; 2 Cor 2:12agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd #Mat 13:11; 1 Cor 4:1; Eff 6:19; Pen 1:26; 2:2dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau: 4Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu. 5#Eff 5:15; 1 Thess 4:12Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, #Eff 5:16gan brynu’r amser. 6Bydded eich ymadrodd bob amser #4:6 mewn gras.#Pen 3:16yn rasol, #Marc 9:50wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i #4:6 pob math ar ddyn.bob dyn. 7#Eff 6:21Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd‐was yn yr Arglwydd: 8Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi; 9Gydag #Philem 10Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma. 10Y mae #Act 19:29; 27:2; Philem 24Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a #Act 15:37; 2 Tim 4:11Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;) 11A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. 12Y mae #Pen 1:7; Philem 23Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, #Rhuf 15:30gan #4:12 ymegnïo.ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll #Mat 5:48; 1 Cor 14:20yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw. 13Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis. 14Y mae #2 Tim 4:11Luc y ffisigwr annwyl, a #2 Tim 4:10Demas, yn eich annerch. 15Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, #Rhuf 16:5; 1 Cor 16:19a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef. 16Ac wedi darllen #1 Thess 5:27yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. 17A dywedwch wrth #Philem 2Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. 18#1 Cor 16:21; 2 Thess 3:17Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. #Heb 13:3Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.
At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Zur Zeit ausgewählt:

Colosiaid 4: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.