1 Thesaloniaid 1

1
A.D. 54. —
1 Paul yn dwyn ar ddeall i’r Thessaloniaid, nid yn unig mor feddylgar oedd efe amdanynt bob amser, mewn diolchgarwch a gweddi; 5 eithr hefyd gystal yr oedd efe yn tybied am wirionedd a phurdeb eu ffydd hwynt, a’u dychweliad at Dduw.
1Paul, a #2 Cor 1:19; 2 Thess 1:1; 1 Pedr 5:12Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist: #Eff 1:2Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 2#Rhuf 1:8; Eff 1:18; Philem 4Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, 3Gan gofio yn ddi‐baid #Ioan 6:29; Gal 5:6; Iago 2:17waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; 4Gan wybod, frodyr #1:4 a garwyd gan Dduw, eich etholedigaeth chwi.annwyl, #Col 3:12; 2 Thess 2:13eich etholedigaeth chwi gan Dduw. 5Oblegid #1 Cor 4:20ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac #2 Cor 6:6yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis #Pen 2:1, 5, 10, 11y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi. 6A #1 Cor 11:1; Phil 3:17; 2 Thess 3:9chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, #Act 5:41; Heb 10:34gyda llawenydd yr Ysbryd Glân: 7Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia. 8Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond #Rhuf 1:8ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim. 9Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw; 10Ac #Rhuf 2:7; Phil 3:20; Titus 2:13i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, #Act 2:24yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a’n gwaredodd ni #Mat 3:7; Rhuf 5:9; Pen 5:9oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Thesaloniaid 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.