Colosiaid 3

3
A.D. 64. —
1 Y mae yn dangos pa le y dylem geisio Crist; 5 ac yn ein hannog i’n marwhau ein hunain, 10 i ddiosg yr hen ddyn, ac i wisgo Crist amdanom: 12 yn ein cynghori i gariad perffaith, a gostyngeiddrwydd, ac amryw rinweddau eraill.
1Am hynny os #Rhuf 6:5; Eff 2:6; Pen 2:12cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae #Eff 1:20Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. 2Rhoddwch eich #3:2 bryd.serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. 3#Rhuf 6:2; Gal 2:20; Pen 2:20Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. 4#1 Ioan 3:2Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef #1 Cor 15:43mewn gogoniant. 5#Rhuf 8:13Marwhewch gan hynny #Rhuf 6:13eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; #Eff 5:3godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, #Eff 5:5yr hon sydd eilun‐addoliaeth: 6#Eff 5:6; Dat 22:15O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar #Eff 2:2blant yr anufudd‐dod: 7#Rhuf 7:5; 1 Cor 6:11; Titus 3:3Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. 8Ond #Eff 4:22; 1 Pedr 2:1yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. 9#Eff 4:25Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, #Eff 4:22, 24gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10A gwisgo’r newydd, yr hwn #Rhuf 12:2a adnewyddir mewn gwybodaeth, #Eff 4:23, 24yn ôl delw yr hwn #Eff 2:10a’i creodd ef: 11Lle nid oes na #Rhuf 10:12; 1 Cor 12:13; Gal 3:28; 5:6Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. 12#Eff 4:32Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb #3:13 achwyn.gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15A llywodraethed #Rhuf 14:17; Phil 4:7tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd #Eff 4:4yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16Preswylied gair Crist ynoch yn #3:16 gyfoethog.helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd #1 Cor 14:26; Eff 5:19mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu #3:16 yn rasol.#Pen 4:6trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17A #1 Cor 10:31pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, #Rhuf 1:8; Eff 5:20; Heb 13:15gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. 18#Eff 5:22; Titus 2:5; 1 Pedr 3:1 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19#Eff 5:25; 1 Pedr 3:7 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20#Eff 6:1 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni #Eff 5:24; Titus 2:9ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21#Eff 6:4 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22#Eff 6:5 &c; 1 Tim 6:1; Titus 2:9; 1 Pedr 2:18 Y gweision, ufuddhewch #Ad. 20ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac #Rhuf 2:11; Eff 6:9; 1 Pedr 1:17nid oes derbyn wyneb.

Zur Zeit ausgewählt:

Colosiaid 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.