Colosiaid 2

2
A.D. 64. —
1 Y mae efe eto yn eu hannog i fod yn ddianwadal yng Nghrist; 8 ac i ochelyd athroniaeth a thraddodiadau ofer, 18 ac addoli angylion, 20 a seremonïau y gyfraith, y rhai sydd wedi terfynu yng Nghrist.
1Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o #2:1 ofn, neu, ofal.#Pen 1:29; Phil 1:30; 1 Thess 2:2ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; 2#2 Cor 1:6Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, #Phil 3:8i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; 3#1 Cor 1:24Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. 4A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, #Eff 5:6; Ad. 18fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. 5Canys #1 Cor 5:3er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled #1 Cor 14:40eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. 6#1 Thess 4:1; Jwdas 3Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; 7#Eff 2:21, 22; 3:17Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. 8#Jer 29:8; Rhuf 16:17; Heb 13:9Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl #Mat 15:2; Gal 1:14traddodiad dynion, yn ôl #Gal 4:3, 9; Ad. 20egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. 9Oblegid #Pen 1:19ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, #Eff 1:20yr hwn yw pen pob #Pen 1:16tywysogaeth ac awdurdod: 11Yn yr hwn hefyd y’ch #Deut 30:6; Jer 4:4; Rhuf 2:29; Phil 3:3enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy #Rhuf 6:6; Pen 3:8, 9ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12#Rhuf 6:4Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd‐gyfodwyd trwy #Eff 1:19; 3:7ffydd gweithrediad Duw #Act 2:24yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13#Eff 2:1, 5, 6, 11A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14#Eff 2:15, 16Gan ddileu #2:14 yr ysgrifen‐law mewn ordeiniadau.ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15#Gen 3:15; Salm 68:18; Esa 53:12; Mat 12:29; Luc 11:22; Ioan 12:31; 16:11Gan #2:15 ddadwisgo.ysbeilio’r #Eff 6:12tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt #2:15 Neu, ynddo ei hun.arni hi. 16Am hynny na farned neb arnoch chwi #Rhuf 14:3, 10, 13am #2:16 fwyta ac yfed.fwyd, neu am ddiod, neu o ran #Gal 4:10dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17#Heb 8:5; 10:1Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18#Ad. 4Na #2:18 farned neb i’ch erbyn.thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei #2:18 fympwy.ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, #2:18 a chrefydd.ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau #Esec 13:3; 1 Tim 1:7nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19Ac heb gyfatal #Eff 4:15, 16y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20Am hynny, os ydych #Rhuf 6:3, 5; 7:4, 6; Gal 2:19wedi marw gyda Christ oddi wrth #Ad. 8egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21(Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) #Esa 29:13; Mat 15:9; Titus 1:14yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23#1 Tim 4:8Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn #Ad. 18ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod #2:23 yn cosbi, neu, diystyru.heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.

Zur Zeit ausgewählt:

Colosiaid 2: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.