2 Timotheus 1
1
A.D. 66. —
1 Serch Paul tuag at Timotheus; 5 a’r ffydd ddiffuant oedd yn Timotheus, ac yn ei fam, a’i nain: 6 ei annog ef i gyffroi rhodd Duw oedd ynddo ef; 8 i fod yn ddianwadal, ac yn ddioddefgar mewn erlid: 13 ac i barhau yn y wir athrawiaeth a ddysgasai ganddo ef. 15 Ynghylch Phygelus a Hermogenes, a chlod Onesifforus.
1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, 2At Timotheus, fy mab annwyl: #1 Tim 1:2Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3#Rhuf 1:8; Eff 1:16Y mae gennyf ddiolch i Dduw, #Act 22:3; 23:1; 24:14; Rhuf 1:9yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor #1 Thess 1:2; 3:10ddi‐baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; 4Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; 5Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn #Act 16:1dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. 6Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu #1 Thess 5:19; 1 Tim 4:14i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. 7Canys #Rhuf 8:15ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll. 8Am hynny #Rhuf 1:16na fydded arnat gywilydd o #1 Tim 2:6dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau #Phil 1:7ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw; 9Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, #Rhuf 3:20; 9:11; Titus 3:5nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond #Rhuf 8:28yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, #Rhuf 16:25; Eff 1:4; 3:11; Titus 1:2; 1 Pedr 1:20cyn dechrau’r byd, 10Eithr #Rhuf 16:25, 26; Col 1:26a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, #1 Cor 15:54, 55; Heb 2:14yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl: 11#Act 9:15; 1 Tim 2:7I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd. 12#Eff 3:1Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy #1:12 yr ymddiriedais.y credais; ac #Pen 4:8y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. 13#Pen 3:14Bydded gennyt #Rhuf 2:20; 6:17ffurf #Titus 1:9yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, #1 Tim 1:14yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14#1 Tim 6:20Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. 15Ti a wyddost hyn, ddarfod #Pen 4:10, 16i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes. 16Rhodded yr Arglwydd drugaredd i #Pen 4:19dŷ Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo #Act 28:20; Eff 6:20fy nghadwyn i: 17Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd. 18Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, #1:18 gwell.gorau y gwyddost ti.
Zur Zeit ausgewählt:
2 Timotheus 1: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society