2 Timotheus 2
2
A.D. 66. —
1 Ei annog ef i ddianwadalwch, ac i barhau, ac i wneuthur rhan gweinidog ffyddlon yr Arglwydd, gan gyfrannu gair Duw yn iawn, a gochelyd siarad ofer. 17 Am Hymeneus a Philetus. 19 Bod sylfaen yr Arglwydd yn sicr. 22 Y mae yn dysgu iddo beth sydd i’w ochelyd, ac i’w ddilyn; a pha fodd y gweddai i weinidog yr Arglwydd ymddwyn.
1Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. 2A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant #1 Tim 3:2; Titus 1:9gymwys i ddysgu eraill hefyd. 3#Pen 1:8; 4:5Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. 4Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. 5Ac #1 Cor 9:25od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. 6#1 Cor 9:10Y llafurwr #2:6 gan lafurio.sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf #2:6 fod yn gyfrannog o’r ffrwythau.dderbyn y ffrwythau. 7Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. 8Cofia gyfodi Iesu Grist #Rhuf 1:3, 4o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: 9Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd #Eff 3:1hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10Am hynny #Eff 3:13; Col 1:24yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11Gwir yw’r gair: Canys #Rhuf 6:5, 8; 2 Cor 4:10os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12#Rhuf 8:17; 1 Pedr 4:13Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: #Mat 10:33; Marc 8:38os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13#Rhuf 3:3; 9:6; Num 23:19Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14Dwg y pethau hyn ar gof, #1 Tim 5:21; 6:13; Pen 4:1gan #2:14 ddir‐dystiolaetha.orchymyn gerbron yr Arglwydd, #1 Tim 6:4na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr #2:15 heb gywilydd arno.di‐fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16Ond #1 Tim 6:20halogedig ofer‐sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae #1 Tim 1:20Hymeneus a Philetus; 18Y rhai #1 Tim 6:21o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19Eithr y mae #2:19 sail Duw yn sefyll yn sicr.#Mat 24:24; 1 Ioan 2:19cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: #Ioan 10:14, 27; Edrych Num 16:5Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a #Rhuf 9:21rhai i barch, a rhai i amarch. 21#Edrych Esa 52:11Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys #2:21 i waith yr Arglwydd.i’r Arglwydd, #Pen 3:17wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a #1 Tim 6:11dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23Eithr #1 Tim 1:4; 4:7; Titus 3:9gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24Ac #Titus 3:2ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, #1 Tim 3:2; Titus 1:9yn athrawus, yn #2:24 amyneddgar.ddioddefgar, 25#Gal 6:1Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych #Act 8:22a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26A bod iddynt #2:26 Gr. ddeffroi.ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a #2:26 Gr. ddaliwyd yn garcharorion, neu, yn fyw.ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.
Zur Zeit ausgewählt:
2 Timotheus 2: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society