1 Timotheus 6
6
A.D. 65. —
1 Dyled gweision i’w meistriaid. 3 Am ochelyd athrawon newydd. 6 Duwioldeb sydd elw mawr: 10 a chwant arian ydyw gwreiddyn pob drwg. 11 Beth a ddylai Timotheus ei ochelyd, a’i ddilyn: 17 am ba beth yr oedd iddo rybuddio y cyfoethogion. 20 Am gadw yr athrawiaeth iawn, a gochelyd siarad ofer.
1Cynifer ag sydd #Eff 6:5; Col 3:22; 1 Pedr 2:18wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; #Titus 2:5, 8fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef. 2A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn #6:2 ffyddloncredu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora. 3Od oes neb #Pen 1:3yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag #Pen 1:10; 2 Tim 1:13; Titus 1:9iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth #Titus 1:1sydd yn ôl duwioldeb; 4#6:4 Ynfyd ywChwyddo y mae, #1 Cor 8:2heb wybod dim, eithr #6:4 Gr. yn glafamhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; #Pen 1:4o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod, 5#1 Cor 11:16#6:5 OferCyndyn ddadlau #2 Tim 3:8dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, #Titus 1:11; 2 Pedr 2:3yn tybied mai elw yw duwioldeb: #2 Tim 3:5cilia oddi wrth y cyfryw. 6Ond elw mawr yw #Diar 15:16duwioldeb gyda bodlonrwydd. 7Canys #Job 1:21; Salm 49:17; Preg 5:15ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 8Ac #Heb 13:5o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. 9Ond #Diar 15:27; 20:21; 28:20; Mat 13:22; Iago 5:1y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. 10Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a #6:10 hudwydgyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. 11#2 Tim 2:22Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. 12#1 Cor 9:25, 26; Pen 1:18; 2 Tim 4:7Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; #Phil 3:12, 14; Ad. 19cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. 13#Pen 5:21Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, #Deut 32:39yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, #Mat 27:11yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd #6:13 gyffesbroffes dda; 14Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, #Phil 1:6, 10; 1 Thess 3:13; 5:23hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys #Pen 1:11, 17y bendigedig a’r unig Bennaeth, #Dat 17:14; 19:16Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, #Exod 33:20; Ioan 1:18; 1 Ioan 4:12, 20; Dat 1:6yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. 17Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac #Job 31:24; Salm 62:10; Marc 10:24na obeithiont mewn #6:17 Gr. anwadalwch goludgolud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: 18Ar iddynt wneuthur daioni, #Luc 12:21; Pen 5:10; Iago 2:5ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; 19#Mat 6:20; Luc 12:33; 16:9Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont #Ad. 12afael ar y bywyd tragwyddol. 20O Timotheus, #2 Tim 1:14; Dat 3:3cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, #Pen 1:4, 6; 4:7; 2 Tim 2:16, 23gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly: 21Yr hon tra yw rhai yn ei #6:21 haddophroffesu, hwy #2 Tim 2:18a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.
Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Timotheus 6: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society