2 Thesaloniaid 3
3
A.D. 54. —
1 Y mae yn deisyfu eu gweddïau hwy drosto ei hun: 3 yn tystiolaethu pa hyder oedd ganddo arnynt; 5 yn gweddïo ar Dduw drostynt; 6 ac yn rhoddi amryw orchmynion; yn enwedig i ochelyd seguryd, a chymdeithas rhai drwg; 16 ac yn diweddu trwy weddïo, a’u hannerch hwy.
1Bellach, frodyr, #Eff 6:19; Col 4:3gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau; 2Ac #Rhuf 15:31ar ein gwared ni oddi wrth ddynion #3:2 Neu, allan o’u lle.anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb. 3Eithr #1 Cor 1:9; 1 Thess 5:24ffyddlon yw’r Arglwydd, yr hwn a’ch sicrha chwi, ac a’ch #Ioan 17:15ceidw rhag drwg. 4Ac #2 Cor 7:16y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi. 5A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i #3:5 amynedd Crist.ymaros am Grist. 6Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, #Rhuf 16:17; Ad. 14; 2 Ioan 10dynnu ohonoch ymaith #1 Cor 5:11oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio #3:6 allan o drefn.#1 Thess 4:11; Ad. 11, 12, 14yn afreolus, ac nid yn ôl #Pen 2:15y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni. 7Canys chwi a wyddoch eich hunain #1 Cor 4:16; 11:1; 1 Thess 1:6, 7pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid #1 Thess 2:10ni buom #3:7 allan o drefn.afreolus yn eich plith chwi; 8Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond #Act 18:3; 20:34trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi; 9#1 Cor 9:6; 1 Thess 2:6Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y’n rhoddem #Ad. 7ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn. 10Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, #Gen 3:19Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith. 11Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi #3:11 allan o drefn.yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar. 12#1 Thess 4:11Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym, a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, #Eff 4:28ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain. 13A chwithau, frodyr, #Gal 6:9na #3:13 flinwch.ddiffygiwch yn gwneuthur daioni. 14Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair #3:14 trwy lythyr, hysbyswch y dyn hwnnw.trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac #Mat 18:17; 1 Cor 5:9, 11; Ad. 6na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe. 15Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr #3:15 rhybuddiwch.cynghorwch ef fel brawd. 16#Rhuf 15:33Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll. 17#1 Cor 16:21; Col 4:18Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu. 18#Rhuf 16:24Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
Zur Zeit ausgewählt:
2 Thesaloniaid 3: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society