2 Thesaloniaid 2

2
A.D. 54. —
1 Mae yn ewyllysio iddynt barhau yn ddi‐sigl yn y gwirionedd a dderbyniasant; 3 yn dangos y bydd ymadawiad oddi wrth y ffydd, 8 ac y datguddir Anghrist, cyn dyfod dydd yr Arglwydd: 15 ac yna yn ailadrodd ei gyngor o’r blaen, ac yn gweddïo drostynt.
1Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, 2#Mat 24:4, 6; Eff 5:6; 1 Ioan 4:1Na’ch sigler yn fuan #2:2 o’ch meddwl, neu, ym meddwl.oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. 3Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a #1 Ioan 2:18; Dat 13:11datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; 4Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac #Dan 11:36yn ymddyrchafu #2:4 yn erbyn.goruwch pob #2:4 un.peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw #Edrych Esec 28efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. 5Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? 6Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. 7Canys y mae #1 Ioan 4:3dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd #Esa 11:4; Hos 6:5; Dat 2:16; 19:15, 20, 21ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad #Eff 2:2; Dat 18:23yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac #Edrych Deut 13:1; Mat 24:24; Dat 13:13arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10A phob dichell anghyfiawnder yn #2 Cor 2:15; 4:3y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11Ac #Rhuf 1:24 &c; Edrych 1 Bren 22:22; Esec 14:9am hynny y denfyn Duw iddynt hwy #2:11 nerthol weithrediad cyfeiliorni.amryfusedd cadarn, #1 Tim 4:1fel y credont gelwydd: 12Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 13Eithr #Pen 1:3nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw #Eff 1:4o’r dechreuad eich #1 Thess 1:4ethol chwi i iachawdwriaeth, #Luc 1:75; 1 Pedr 1:2trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd #2:13 y.i’r gwirionedd: 14I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i #Ioan 17:22feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch #Pen 3:6y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni. 16A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a’n Tad, yr hwn a’n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras, 17A ddiddano eich calonnau chwi, ac a’ch #1 Cor 1:8; 1 Thess 3:13sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.

Zur Zeit ausgewählt:

2 Thesaloniaid 2: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.