1 Timotheus 1

1
A.D. 65. —
1 Y mae Paul yn dwyn ar gof i Timotheus y siars a roddasai efe iddo, wrth fyned i Macedonia. 5 Iawn arfer a diwedd y gyfraith. 11 Ynghylch galw Paul i fod yn apostol. 20 Am Hymeneus ac Alexander.
1Paul, apostol Iesu Grist, #Act 9:15yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist, #Col 1:27ein gobaith: 2At #Act 16:1; 1 Cor 4:17; 1 Thess 3:2Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: #Gal 1:3; 2 Tim 1:2; 1 Pedr 1:2Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, #Act 20:1, 3; Phil 2:24pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai #Gal 1:6, 7; Pen 6:3na ddysgont ddim amgen, 4Ac na #Pen 4:7; 6:4, 20; 2 Tim 2:16, 23; Titus 1:14; 3:9ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd #1:4 mewntrwy ffydd; gwna felly. 5Eithr #Rhuf 13:8, 10; Gal 5:14diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith: 6Oddi wrth yr hyn bethau y gwyrodd rhai, ac y troesant heibio at #Ad. 4ofer siarad; 7Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. 8Eithr nyni a wyddom mai #Rhuf 7:12da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon; 9#Gal 3:19; 5:23Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd, i’r rhai annuwiol a phechaduriaid, i’r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion, 10I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth #Pen 6:3; 2 Tim 4:3; Titus 1:9; 2:1iachus; 11Yn ôl efengyl #1:11 ogoneddusgogoniant #Pen 6:15y bendigedig Dduw, #Gal 2:7; 1 Thess 2:4; Titus 1:3am yr hon yr ymddiriedwyd i mi. 12Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, #1 Cor 7:25am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; 13#Act 8:3; 9:1; Phil 3:6Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am #Ioan 9:39, 41; Act 3:17i mi yn ddiarwybod ei wneuthur #1:13 mewntrwy anghrediniaeth. 14A gras ein Harglwydd ni a dra‐amlhaodd #2 Tim 1:13gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. 15Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob #1:15 croesoderbyniad, #Mat 9:13; Marc 2:17; Luc 5:32; 19:10; 1 Ioan 3:5ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, #1:15 blaenafpennaf ydwyf i. 16Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi #1:16 Neu, y blaenafyn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. 17Ac #Salm 10:16; 145:13; Pen 6:15, 16i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, #Rhuf 16:27i’r Duw unig ddoeth, #1 Cron 29:11 y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 18Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, #Pen 4:14yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar #Pen 6:12; 2 Tim 4:7filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; 19#Pen 3:9Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: 20O ba rai y mae #2 Tim 2:17Hymeneus ac #2 Tim 4:14Alexander; y rhai #1 Cor 5:5a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Timotheus 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.