2 Ioan 1
1
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae efe yn annog rhyw arglwyddes urddasol a’i phlant i barhau mewn cariad a ffydd Crist, 8 rhag iddynt golli gwobr eu proffes o’r blaen: 10 ac na byddai iddynt a wnelent â’r twyllwyr nid oeddynt yn dysgu gwir athrawiaeth Crist Iesu.
1Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, #1 Ioan 3:18; 3 Ioan 1; Ad. 3y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; 2Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. 3#1:3 Gr. Gras a fydd gyda chwi.Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. 4Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai #3 Ioan 3yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. 5Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, #1 Ioan 2:7, 8; 3:11nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, #Ioan 13:34; 15:12; Eff 5:2; 1 Pedr 4:8; 1 Ioan 3:23garu ohonom ein gilydd. 6A #Ioan 15:10; 1 Ioan 5:3hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; #1 Ioan 2:24Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. 7Oblegid y mae twyllwyr #1 Ioan 4:1lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, #1 Ioan 4:2, 3y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. #1 Ioan 2:22; 4:3Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. 8Edrychwch arnoch eich hunain, #Gal 3:4; Heb 10:22fel na chollom y pethau a #1:8 enillasom.wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. 9#1 Ioan 2:23Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo. 10Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac #Rhuf 16:17; 1 Cor 5:11; 16:22; Gal 1:8, 9; 2 Tim 3:5; Titus 3:10na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: 11Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 12#3 Ioan 13Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru #1:12 Gr. enau wrth enau.wyneb yn wyneb, #Ioan 17:13; 1 Ioan 1:4fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 13Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.
Zur Zeit ausgewählt:
2 Ioan 1: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society