Logo der Bibel App
Suchsymbol

1 Ioan 5

5
A.D. Gwedi 90. —
1 Y neb sydd yn caru Duw sydd yn caru ei blant ef hefyd, ac yn cadw ei orchmynion ef, 3 y rhai sydd ysgafn, ac nid trymion, i’r ffyddloniaid. 9 Y mae Iesu yn Fab Duw, ac yn abl i’n hachub ni; 14 ac i wrando ein gweddïau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur drosom ein hunain, a thros eraill.
1 # Ioan 1:12 Pob un a’r sydd yn credu mai #Pen 2:22, 23; 4:2, 15Iesu yw’r Crist, o Dduw y #Ioan 1:13ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. 2Yn #Ioan 14:15, 21, 23; 2 Ioan 6hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. 3Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: #Mat 11:30a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. 4Oblegid #Pen 3:9; 4:4beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. 5Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond #1 Cor 15:57; Pen 4:15yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? 6Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd. 7Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, #Ioan 1:1y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt. 8Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno. 9Os #Ioan 8:17, 18tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab. 10Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, #Rhuf 8:16; Gal 4:6sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, #Ioan 3:33; 5:38a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. 11A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: #Ioan 1:4a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. 12#Ioan 3:36; 5:24Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. 13#Ioan 20:31Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. 14A hyn yw’r hyfder sydd gennym #5:14 ynddo ef.tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, #Pen 3:22os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. 15Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo. 16Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac #Iago 5:14, 15efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. #Mat 12:31, 32; Marc 3:29; Heb 6:4; 10:26Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono. 17#Pen 3:4Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth. 18Ni a wyddom nad yw’r #1 Pedr 1:23; Pen 3:9neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef. 19Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. 20Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe #Luc 24:45a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. #Esa 9:6; 44:6; 54:5; Ioan 20:28; Rhuf 9:5; 1 Tim 3:16; Titus 2:13Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. 21Y plant bychain, #1 Cor 10:14ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Ioan 5: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.