Logo der Bibel App
Suchsymbol

3 Ioan 1

1
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae efe yn canmol Gaius am ei dduwioldeb, 5 ac am groesawu pregethwyr. 9 Y mae yn achwyn rhag angharedigrwydd ac uchder Diotreffes, 11 yr hwn ni ddylid dilyn ei ddrwg esiampl. 12 Y mae yn rhoi canmoliaeth mawr i Demetrius.
1Yr henuriad at yr annwyl Gaius, #2 Ioan 1yr hwn yr wyf yn ei garu #1:1 Neu, yn gywir.mewn gwirionedd. 2Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn #1:2 gweddïo.dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. 3Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag #2 Ioan 4yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd. 4Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod #1 Cor 4:15; Philem 10fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd. 5Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid; 6Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei. 7Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd. 8Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom #1:8 gyd‐weithwyr.gyd‐gynorthwywyr i’r gwirionedd. 9Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom. 10Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys. 11Anwylyd, #Salm 37:27; Esa 1:16; 1 Pedr 3:11na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. #1 Ioan 3:6, 9Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. 12Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir. 13#2 Ioan 12Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti: 14Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn #1:14 Gr. enau wrth enau.wyneb yn wyneb. 15Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.

Zur Zeit ausgewählt:

3 Ioan 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.