1 Timotheus 5

5
A.D. 65. —
1 Rheolau i’w dilyn wrth geryddu. 3 Ynghylch gwragedd gweddwon, 17 a henuriaid. 23 Cyngor ynghylch iechyd Timotheus. 24 Bod pechodau rhai yn myned o’r blaen i farn, a’r eiddo eraill yn canlyn.
1 # Lef 19:32 Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr; 2Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, #5:2 mewn pob diweirdebgyda phob purdeb. 3Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, #Ad. 5:16y rhai sydd wir weddwon. 4Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer #5:4 caredigrwyddduwioldeb gartref, a #Edrych Gen 45:10, 11; Mat 15:4; Eff 6:1, 2thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw. 5#1 Cor 7:32Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac #Luc 2:37; 18:1yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd. 6Ond yr hon sydd #5:6 yn byw yn foethusdrythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw. 7A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd. 8Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei #5:8 geraintdeulu, #2 Tim 3:5; Titus 1:16efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di‐ffydd. 9#5:9 Na chyfrifer ym mhlith y rhai gweddwonNa ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr, 10Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os #1 Pedr 4:9bu letygar, o #Gen 18:4; 19:2; Luc 7:38, 44golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da. 11Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant; 12Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf. 13A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag‐siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys. 14#1 Cor 7:9Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, #Titus 2:8heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i #5:14 Gr ymsennuddifenwi. 15Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan. 16Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu #Ad. 3:5y gwir weddwon. 17#Rhuf 12:8; 1 Cor 9:10, 14; Gal 6:6; Phil 2:29; 1 Thess 5:12, 13Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth. 18Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, #Deut 25:4; 1 Cor 9:9Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, #Lef 19:13; Mat 10:10; Luc 10:7 Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. 19Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr #Deut 19:15#5:19 Neu, gerbron daudan ddau neu dri o dystion. 20#Gal 2:14Y rhai sydd yn pechu, #5:20 argyhoeddacerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. 21#5:21 Dir‐dystiolaethu#Pen 6:13; 2 Tim 2:14; 4:1Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o #5:21 dueddgydbartïaeth. 22#Act 6:6; 13:3; Pen 4:14; 2 Tim 1:6Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur. 23Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, #Salm 104:15er mwyn dy gylla a’th fynych wendid. 24Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd. 25Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen; a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Timotheus 5: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.