1 Timotheus 4
4
A.D. 65. —
1 Y mae yn proffwydo ymadawiad oddi wrth y ffydd yn yr amseroedd diwethaf; 6 ac er mwyn na byddai i Timotheus ballu yn ei swydd, y mae yn rhoi iddo amryw gynghorion ynghylch hynny.
1Ac y mae’r Ysbryd yn eglur #2 Thess 2:3; 2 Tim 3:1; 2 Pedr 3:3; 1 Ioan 2:18; Jwdas 18yn dywedyd yr ymedy rhai #1 Pedr 1:20yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; 2Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei #4:2 llosgiserio â haearn poeth; 3Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw #Gen 1:29; 9:3i’w derbyn, #Rhuf 14:6; 1 Cor 10:30trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. 4Oblegid y mae #Rhuf 14:14, 20; 1 Cor 10:25; Titus 1:15pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. 5Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi. 6#4:6 Os dygi y pethau hyn ar gof i’r brodyrOs gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, #2 Tim 3:14, 15wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. 7Eithr #Pen 1:4; 6:20|1TI 6:20; Titus 1:14gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. 8Canys #4:8 Neu, tros ychydigi ychydig y mae #Col 2:23ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. 9#Pen 1:15Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob #4:9 croesoderbyniad. 10Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, #Salm 36:6; 107:2, 6, &cyr hwn yw Achubydd pob #4:10 dyniondyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12#1 Cor 16:11; Titus 2:15Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr #Titus 2:7; 1 Pedr 5:3bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14#2 Tim 1:6Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti #Pen 1:18trwy broffwydoliaeth, #Act 6:6gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur #4:15 ym mhob pethi bawb. 16Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti #Esec 33:9a’th gedwi dy hun #Rhuf 11:14; 1 Cor 9:22; Iago 5:20a’r rhai a wrandawant arnat.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Timotheus 4: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society