1 Timotheus 3

3
A.D. 65. —
2 Cyneddfau esgobion, a diaconiaid, a’u gwragedd; 14 a phaham y mae yr apostol yn ysgrifennu y pethau hyn at Timotheus. 15 Ynghylch yr eglwys, a’r gwirionedd a ddysgir ynddi.
1Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd #Act 20:28esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. 2Rhaid gan hynny i #Titus 1:6, &cesgob fod yn #3:2 foddusddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, #2 Tim 2:24yn athrawaidd; 3Nid yn #3:3 barod i ymladd a chynnig cam, fel un mewn gwinwingar, nid yn drawydd, #1 Pedr 5:2nid yn budrelwa; eithr yn dirion, #2 Tim 2:24yn anymladdgar, yn ddiariangar; 4Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; 5(Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) 6Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. 7Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda #Act 22:12; 1 Cor 5:12gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. 8Rhaid i’r #Act 6:3diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; 9#Pen 1:19Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. 10A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. 11Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. 12Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. 13Canys #Edrych Mat 25:21y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a #3:15 Neu, chynhaliadsylfaen y gwirionedd. 16Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; #Ioan 1:14; 1 Ioan 1:2Duw a #3:16 Gr. amlygwydymddangosodd yn y cnawd, #Rhuf 1:4; 1 Pedr 3:18a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, #Mat 28:2; Marc 16:5; Luc 24:4; Ioan 20:12; Eff 3:10; 1 Pedr 1:12a welwyd gan angylion, #Eff 3:5, 6a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, #Luc 24:51; Act 1:9a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Timotheus 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.