1 Pedr 4
4
A.D. cylch 60. —
1 Y mae yn eu hannog hwy i beidio â phechu, trwy esiampl Crist, a thrwy ystyried fod diwedd pob peth yn pwyso yn agos. 12 Y mae yn eu cysuro yn erbyn erlid.
1Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid #Rhuf 6:7yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod; 2#Rhuf 14:7Fel na byddo mwyach #Gal 2:20fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd. 3Canys digon i ni #Esec 44:6; 45:9; Act 17:30yr amser a aeth heibio o’r einioes #Eff 4:17i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, #4:3 ymyfed.diota, a ffiaidd eilun‐addoliad: 4Yn yr hyn y maent yn ddieithr #Act 13:45; 18:6yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd: 5Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod #Act 10:42; 1 Cor 15:51, 52i farnu’r byw a’r meirw. 6Canys er mwyn hynny #Pen 3:19yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd. 7Eithr #Mat 24:13, 14; Rhuf 13:12; Phil 4:5; 2 Pedr 3:9, 11diwedd pob peth a nesaodd: #Mat 26:41; Col 4:2; Pen 5:8am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. 8Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad #4:8 gwresog parhaus.helaeth tuag at eich gilydd: canys #Diar 10:12; Iago 5:20cariad a guddia liaws o bechodau. 9Byddwch #Rhuf 12:13; Heb 13:2letygar y naill i’r llall, #Phil 2:14heb rwgnach. 10#Rhuf 12:6Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, #Mat 25:14; Luc 12:42; 1 Cor 4:1, 2; Titus 1:7fel daionus oruchwylwyr #1 Cor 12:4; Eff 4:11amryw ras Duw. 11#Rhuf 12:6, 7, 8; 1 Cor 3:10Os llefaru a wna neb, llefared megis #4:11 oraclau.geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel #Eff 5:20ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; #1 Tim 6:16i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am #1 Cor 3:13; Pen 1:7y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13Eithr #Act 5:41; Iago 1:2llawenhewch, yn gymaint â’ch bod #2 Cor 4:10; Col 1:24; 2 Tim 2:12; Dat 1:9yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14#Mat 5:11; Pen 2:20 3:14Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15Eithr #Pen 2:20na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17Canys daeth yr amser #Esa 10:12; Jer 25:29; 49:12; Mal 3:5i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac #Luc 23:31os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, #Luc 10:12, 14beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn #4:17 ufuddhau.credu i efengyl Duw? 18#Diar 11:31; Luc 23:31Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, #Salm 31:5; Luc 23:46; 2 Tim 1:12gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Pedr 4: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society