1 Pedr 3
3
A.D. cylch 60. —
1 Y mae yn dysgu i wŷr a gwragedd eu dyled i’w gilydd: 8 yn annog pawb i undeb a chariad; 14 ac i ddioddef erlid; 19 ac yn adrodd daioni Duw i’r hen fyd gynt.
1Yr un ffunud, #1 Cor 14:34; Eff 5:22; Col 3:18; Titus 2:5 bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i’r gair, #1 Cor 7:16y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, #Mat 18:15; 1 Cor 9:19–22eu hennill hwy heb y gair, 2Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn. 3#1 Tim 2:9; Titus 2:3Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch‐osodiad aur, neu wisgad dillad; 4Eithr bydded #Salm 45:13; Rhuf 2:29; 7:22; 2 Cor 4:16cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr. 5Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod; 6Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, #Gen 18:12gan ei alw ef yn arglwydd: #3:6 Gr. plant.merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn. 7#1 Cor 7:3; Eff 5:25Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i’r wraig #1 Cor 12:23; 1 Thess 4:4megis i’r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd‐etifeddion gras y bywyd; #Job 42:8; Mat 5:24; 18:19rhag rhwystro eich gweddïau. 8Am ben hyn, #Rhuf 12:16; 15:5; Phil 3:16 byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru #3:8 Neu, y brodyr.fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: 9#Diar 17:13; 20:22; Mat 5:39; Rhuf 12:17Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, #Mat 25:34fel yr etifeddoch fendith. 10Canys #Salm 34:12, &cy neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: 11#Salm 37:27; Esa 1:16; 3 Ioan 11Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. 12Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg. 13A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? 14#Mat 5:10, 11, 12; Pen 2:19 4:14Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond #Esa 8:12, 13; Jer 1:8nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; 15Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a #Salm 119:46; Act 4:8; Col 4:6 byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder #3:15 a pharch.ac ofn: 16#Pen 2:19, 21A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. 17Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni. 18Oblegid Crist hefyd #Rhuf 5:6; Heb 9:26, 28unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, #Rhuf 1:4; 2 Cor 13:4wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd: 19Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac #Pen 1:12; 4:6a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar; 20#Gen 6:3, 13Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra #Heb 11:7darperid yr arch, #Gen 7:7; 8:18; 2 Pedr 2:5yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. 21#Eff 5:26Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist: 22Yr hwn sydd #Salm 110:1; Eff 1:20, 21ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef; a’r #Rhuf 8:38angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Pedr 3: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society