1 Pedr 5
5
A.D. cylch 60. —
1 Y mae yn annog yr henuriaid i borthi defaid Crist; 5 a’r ieuanc i ufuddhau: 8 a phawb i wylied, ac i fod yn sobr, ac yn ddianwadal yn y ffydd; 9 ac i wrthwynebu y cythraul, y gwrthwynebwr creulon.
1Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf #Philem 9gyd‐henuriad, a #Luc 24:48thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf #Rhuf 8:17, 18; Dat 1:9gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: 2#Act 20:28Porthwch braidd Duw, #5:2 hyd y galloch.yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; #1 Tim 3:3, 8; Titus 1:7nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; 3Nid fel rhai #Mat 20:25, 26; 1 Cor 3:9; 2 Cor 1:24yn tra‐arglwyddiaethu ar #Salm 33:12; 74:2etifeddiaeth Duw, ond #Phil 3:17; 2 Thess 3:9; 1 Tim 4:12; Titus 2:7gan fod yn esiamplau i’r praidd. 4A phan #Heb 13:20ymddangoso’r Pen‐bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig #1 Cor 9:25goron y gogoniant. 5Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch #Rhuf 12:20; Eff 5:21bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid #Iago 4:6y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 6#Iago 4:10Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: 7#Salm 37:5; 55:22; Mat 6:25; Phil 4:6Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. 8#Luc 21:36; 1 Thess 5:6; Pen 4:7Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae #Job 1:7; 2:2eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. 9#Eff 6:11, 13; Iago 4:7Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich #5:9 brawdoliaeth yr hon sydd.brodyr y rhai sydd yn y byd. 10A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant #5:10 yng Nghrist Iesu.trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef #2 Cor 4:17; Pen 1:6ychydig, #Heb 13:21a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11#Pen 4:11; Dat 1:6Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, #Heb 13:22yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo. 13Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a #Act 12:12, 25Marc, fy mab i. 14#Rhuf 16:16; 1 Cor 16:20; 2 Cor 13:12; 1 Thess 5:26Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Pedr 5: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society