1 Pedr 2
2
A.D. cylch 60. —
1 Y mae yn eu cynghori na wnelont ddim yn erbyn cariad: 4 yn dangos mai Crist ydyw y sylfaen yr adeiladwyd hwynt arno: 11 ac yn dymuno arnynt ymgadw rhag chwantau cnawdol; 13 a bod yn ufudd i swyddogion. 18 Y mae yn dysgu i weision ufuddhau i’w meistriaid, 20 a bod yn ddioddefgar, wrth esiampl Crist, er eu bod yn cael cam.
1 #
Eff 4:22, 25; Col 3:8; Heb 12:1 Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan‐air, 2Fel rhai bychain newydd‐eni, chwenychwch #2:2 y rhesymol a’r didwyll laeth.ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: 3Os #Salm 34:8profasoch fod yr Arglwydd yn dirion. 4At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, #Salm 118:22a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. 5#Eff 2:21, 22A chwithau, megis meini bywiol, #2:5 adeilader chwi.ydych wedi eich adeiladu #Heb 3:6yn dŷ ysbrydol, #Esa 61:6; 66:21; Ad. 9yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau #Hos 14:2; Mal 1:11; Rhuf 12:1; Heb 13:15, 16ysbrydol, #Pen 4:11cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. 6Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, #Esa 28:16; Rhuf 9:33Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. 7I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn #2:7 werthfawr.urddas: eithr i’r #2:7 rhai nid ydynt yn credu.anufuddion, #Salm 118:22y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, 8#Esa 8:14; Luc 2:34; Rhuf 9:33Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, #1 Cor 1:23 i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; #Exod 9:16; Rhuf 9:22; 1 Thess 5:9; Jwdas 4i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. 9Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, #Exod 19:5, 6; Dat 1:6; 5:10brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl #2:9 brynedig, fel, & c.briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o #Eff 5:8; Col 1:13dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: 10#Hos 1:9, 10; 2:23; Rhuf 9:25Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd. 11Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, #1 Cron 29:15; Salm 39:12; 119:19; Pen 1:17megis dieithriaid a phererinion, #Rhuf 13:14; Gal 5:16ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, #Iago 4:1y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; 12#2 Cor 8:21; Titus 2:8; Pen 3:16Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, #Mat 5:16y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. 13#Rhuf 13:1; Titus 3:1Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; 14Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon #Rhuf 13:4er dial ar y drwgweithredwyr, a #Rhuf 13:3mawl i’r gweithredwyr da. 15Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi #Titus 2:8trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: 16#Gal 5:1, 13Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel #1 Cor 7:22gwasanaethwyr Duw. 17#Pen 1:22; Phil 2:3Perchwch bawb. #Pen 1:22Cerwch y brawdoliaeth. #Mat 22:21Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin. 18#Eff 6:5; Col 3:22; Titus 2:9 Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas, eithr i’r rhai anghyweithas hefyd. 19Canys hyn sydd #2:19 ras, neu, ddiolch.#Mat 5:10; Rhuf 13:5rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. 20Oblegid #Pen 3:14pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd #2:20 ras, neu, ddiolch.rasol gerbron Duw. 21Canys #Mat 16:24; 1 Thess 3:3i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid #Pen 3:18Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, #Ioan 13:15gan adael i #2:21 Neu, chwi.ni esiampl, fel y canlynech ei ôl ef: 22#Esa 53:9; 2 Cor 5:21Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: 23#Mat 27:39; Ioan 8:48, 49Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: 24#Esa 53:4, 5, 6; Mat 8:17; Heb 9:28Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff #2:24 at.ar y pren; #Rhuf 6:2, 11; 7:6fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: #Esa 53:5trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. 25Canys #Esa 53:6yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd #Esec 34:23; 37:24; Ioan 10:11; Heb 13:20at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Pedr 2: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society