Logo der Bibel App
Suchsymbol

1 Pedr 1

1
A.D. cylch 60. —
1 Y mae efe yn bendithio Duw am ei amryw rad ysbrydol: 10 gan ddangos nad ydyw yr iachawdwriaeth yng Nghrist beth newydd, eithr peth a broffwydwyd amdano er ys talm. 13 Cyngor i fyw yn dduwiol, gan eu bod hwy wedi eu geni o newydd trwy air Duw.
1Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid #Ioan 7:35; Iago 1:1sydd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia, 2Etholedigion #Rhuf 8:29yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, #2 Thess 2:13trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd‐dod a #Heb 12:24thaenelliad gwaed Iesu Grist: #Rhuf 1:7; 2 Pedr 1:2Gras i chwi a heddwch a amlhaer. 3#2 Cor 1:3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd #Ioan 3:3, 5; Iago 1:18a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, #1 Cor 15:20trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac #Col 1:5yng nghadw yn y nefoedd i #1:4 ni.chwi. 5#Ioan 10:28, 29; 17:11, 12, 15; Jwdas 1Y rhai trwy allu Duw #1:5 ydym.ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. 6Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod #2 Cor 4:17ychydig yr awron, os rhaid yw, #Iago 1:2mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: 7Fel y caffer #Iago 1:3; Pen 4:12profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd #Diar 17:3; Sech 13:9profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: 8#1 Ioan 4:20Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; #Ioan 20:29; 2 Cor 5:7; Heb 11:1, 27yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 10#Gen 49:10; Dan 2:44; Hag 2:7; Sech 6:12; Mat 13:17; Luc 10:24Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: 11Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd #Pen 3:19; 2 Pedr 1:21Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu #Salm 22:6; Esa 53:3, &c; Luc 24:26dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny. 12#Dan 9:24; 12:9, 13I’r rhai y datguddiwyd, #Heb 11:13, 39nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn #1:12 trefnu y pethau.gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi #Act 2:4trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; #Exod 25:20; Dan 8:13; 12:5, 6; Eff 3:10ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych. 13Oherwydd paham, #Luc 12:35; Eff 6:14gan wregysu lwynau eich meddwl, a #Luc 21:34; Rhuf 13:13; 1 Thess 5:6bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; 14Fel plant ufudd‐dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen #Act 17:30yn eich anwybodaeth: 15Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. 16Oblegid y mae yn ysgrifenedig, #Lef 11:44; 19:2; 20:7Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 17Ac os ydych yn galw ar y Tad, #Act 10:34; Rhuf 2:11yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, #2 Cor 7:1; Phil 2:12ymddygwch mewn ofn dros amser eich #2 Cor 5:6; Heb 11:13ymdeithiad: 18Gan wybod #1 Cor 6:20; 7:23nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, #Esec 20:18 yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; 19Eithr #Heb 9:12, 14; Dat 5:9â gwerthfawr waed Crist, #Exod 12:5; Ioan 1:29, 36; 1 Cor 5:7megis oen difeius a difrycheulyd: 20#Rhuf 3:25; 16:25, 26; Col 1:26; 2 Tim 1:10; Titus 1:2; Dat 13:8Yr hwn yn wir a #1:20 rag‐wybuwyd.ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd #Eff 1:10yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, 21Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, #Act 2:24yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac #Phil 2:9a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. 22Gwedi #Act 15:9puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, #Rhuf 12:10; 1 Tim 1:5; Heb 13:1; Pen 2:17i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: 23#Ioan 1:13; 3:5Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, #Iago 1:18; 1 Ioan 3:9trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. 24Canys #Esa 40:6; Iago 1:10pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: 25Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Pedr 1: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.