1 Ioan 4
4
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae yn eu rhybuddio hwynt na choelient bob athro sydd yn ymffrostio o’r Ysbryd, eithr eu profi hwy yn hytrach trwy reolau y ffydd gatholig. 7 Ac y mae trwy amryw resymau yn eu hannog i gariad brawdol.
1Anwylyd, #Jer 29:8; Mat 24:4na chredwch bob ysbryd, eithr #1 Thess 5:21; Dat 2:2profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid #Mat 24:5, 24; 1 Tim 4:1; 2 Pedr 2:1; 2 Ioan 7y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. 2#4:2 Yn.Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: #1 Cor 12:3; Pen 5:1Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. 3A #Pen 2:22; 2 Ioan 7phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, #2 Thess 2:7; Pen 2:18, 22a’r awron y mae efe yn y byd eisoes. 4Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r #Ioan 12:31; 1 Cor 2:12; Eff 2:2; 6:12hwn sydd yn y byd. 5#Ioan 3:31Hwynt‐hwy, o’r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, #Ioan 15:19a’r byd a wrendy arnynt. 6Nyni, o Dduw yr ydym. #Ioan 8:47; 10:27; 1 Cor 14:37; 2 Cor 10:7Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. #Esa 8:20; Ioan 14:17Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni. 7Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. 8Yr hwn nid yw yn caru, #Pen 2:4; 3:6nid adnabu Dduw: oblegid #Ad. 16Duw, cariad yw. 9#Ioan 3:16; Pen 3:16Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig‐anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. 10Yn hyn y mae cariad; #Ioan 15:16; Rhuf 5:8, 10nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab #Pen 2:2 i fod yn #4:10 gymod.iawn dros ein pechodau. 11Anwylyd, #Mat 18:33; Ioan 15:12, 13os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. 12#Ioan 1:18; 1 Tim 6:16Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac #Pen 2:5; Ad. 18y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. 13#4:13 Yn.#Pen 3:24Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. 14A #Pen 1:1ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd. 15Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. 16A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw #4:16 ynom ni.tuag atom ni. #Ad. 8Duw, cariad yw: #Ad. 12a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. 17Yn hyn y perffeithiwyd #4:17 Gr. cariad gyda nyni.ein cariad ni, fel #Iago 2:13; Pen 2:28 3:19, 21y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. 18Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. 19Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. 20#Pen 2:4; 3:17Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd? 21A’r #Mat 22:37, 39; Ioan 13:34; 15:12; Pen 3:11, 23gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Ioan 4: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society