Logo der Bibel App
Suchsymbol

1 Ioan 3

3
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae yn dangos rhagorol gariad Duw tuag atom ni, yn ein gwneuthur yn blant iddo ei hun; 3 ac am hynny y byddai raid i ninnau fod yn ufudd i gadw ei orchmynion, 11 a charu bawb ein gilydd fel brodyr.
1Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad #3:1 i ni.arnom, fel #Ioan 1:12y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, #Ioan 15:18, 19; 16:3; 17:25oblegid nad adnabu efe ef. 2Anwylyd, #Esa 56:5; Rhuf 8:15; Gal 3:26; 4:6yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac #Rhuf 8:18; 2 Cor 4:17nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, #Rhuf 8:29; 1 Cor 15:49; Phil 3:21; Col 3:4y byddwn gyffelyb iddo: oblegid #Salm 16:11; 1 Cor 13:12; 2 Cor 5:7ni a gawn ei weled ef megis ag y mae. 3Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur. 4Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: #3:4 ac.oblegid #Rhuf 4:15; Pen 5:17anghyfraith yw pechod. 5A chwi a wyddoch #Esa 53:6, &c; 1 Tim 1:15ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac #2 Cor 5:21; Heb 9:28; 1 Pedr 2:22ynddo ef nid oes pechod. 6Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: #Pen 2:4; 4:8; 3 Ioan 11pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. 7O blant bychain, na thwylled neb chwi: #Pen 2:29yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn. 8#Mat 13:38; Ioan 8:44Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. 9#Pen 5:18Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid #1 Pedr 1:23y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. 10Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, #Pen 4:8na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. 11Oblegid #3:11 hwn yw y gorchymyn.#Pen 1:5; 2:7hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; #Ioan 13:34; 15:12; Ad. 23bod i ni garu ein gilydd. 12Nid fel #Gen 4:8; Jwdas 11Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13Na ryfeddwch, fy mrodyr, os #Ioan 15:18yw’r byd yn eich casáu chwi. 14#Pen 2:10Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. #Pen 2:9, 11Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15#Mat 5:21, 22Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i #Gal 5:21un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16#Ioan 3:16; 15:13; Rhuf 5:8; Eff 5:2; Pen 4:9Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. 17Eithr #Deut 15:7; Luc 3:11yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei #3:17 ymysgaroedd.dosturi oddi wrtho, #Pen 4:20pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? 18Fy mhlant bychain, #Esec 33:31; Rhuf 12:9; Eff 4:15; Iago 2:15na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. 19Ac #3:19 yn.wrth hyn y gwyddom ein #Ioan 18:37; Pen 1:8bod o’r gwirionedd, ac y #3:19 Gr. perswadiwn.sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. 20Oblegid os ein calon a’n condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth. 21Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, #Heb 10:22; Pen 4:17y mae gennym hyder ar Dduw. 22A #Mat 7:8; Ioan 14:13; 15:7; 16:23; Iago 5:16; Pen 5:14pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. 23A #Ioan 6:29; 17:3hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom #3:23 i.yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a #Ad. 11; Pen 4:21charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. 24#Ioan 14:23; 15:10; Pen 4:12A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. #3:24 yn.#Rhuf 8:9; Pen 4:13Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Ioan 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.