Logo der Bibel App
Suchsymbol

1 Ioan 2

2
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae yn eu cysuro hwy yn erbyn pechodau o wendid. 3 Adnabod Duw yn iawn, yw cadw ei orchmynion ef, 9 a charu ein brodyr, 15 ac na roddom ein serch ar y byd. 18 Rhaid i ni ochelyd twyllwyr; 20 y rhai y mae y duwiol yn ddiogel oddi wrth eu twyll, trwy barhau yn y ffydd, ac mewn sancteiddrwydd buchedd.
1Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, #Rhuf 8:34; 1 Tim 2:5; Heb 7:25; 9:24y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: 2Ac #Rhuf 3:25; 2 Cor 5:18; Pen 4:10efe yw’r #2:2 cymod.iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr #Ioan 4:42; Pen 4:14dros bechodau yr holl fyd. 3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. 4#Pen 1:6; 4:20Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. 5Eithr #Ioan 14:21, 23yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir #Pen 4:12yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: #Pen 4:13wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. 6Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, #Mat 11:29; Ioan 13:15; 1 Pedr 2:21a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef. 7Y brodyr, #2 Ioan 5nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen #Pen 3:11; 2 Ioan 5yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad. 8Trachefn, #Ioan 13:14gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: #Rhuf 13:12; 1 Thess 5:5, 8oblegid y tywyllwch #2:8 sydd yn myned.a aeth heibio, #Ioan 1:9; 8:12a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu. 9#1 Cor 13:2; 2 Pedr 1:9; Pen 3:14, 15Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. 10#Pen 3:14Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac #2 Pedr 1:10nid oes rhwystr ynddo. 11Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac #Ioan 12:35yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef. 12Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegid #Luc 24:47; Act 4:12; 13:38maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef. 13Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, am orchfygu ohonoch yr un drwg. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad. 14Ysgrifennais atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, am #Eff 6:10eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu ohonoch yr un drwg. 15Na cherwch y byd, na’r pethau sydd yn y byd. #Mat 6:24; Iago 4:4O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef. 16Canys pob peth a’r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae. 17#1 Cor 7:31; Iago 1:10A’r byd sydd yn myned heibio, a’i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd. 18O blant bychain, #Heb 1:2yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch #2 Thess 2:3, &c; Pen 4:3y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. 19#Deut 13:13; Salm 41:9; Act 20:30Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys #Mat 24:24; Ioan 6:37; 10:28, 29pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, #1 Cor 11:19fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni. 20Eithr #2 Cor 1:21; Heb 1:9y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a #Ioan 10:4, 5; 14:26; 16:13; Ad. 27chwi a wyddoch bob peth. 21Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. 22#Pen 4:3; 2 Ioan 7Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab. 23#Ioan 15:23; 2 Ioan 9Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab, nid oes ganddo’r Tad chwaith: (ond) #Ioan 14:7, 9, 10; Pen 4:15 yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd. 24Arhosed gan hynny ynoch chwi #2 Ioan 6yr hyn a glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad. 25A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol. 26Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo. 27Ond y mae’r #Ad. 20eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac #Jer 31:33, 34; Heb 8:10, 11nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad #Ioan 14:26; 16:13yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch #2:27 ynddo ef.ynddo. 28Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, #Pen 3:2pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac #2:28 na’n cywilyddier ganddo.na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad. 29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, #2:29 gwybyddwch.chwi a wyddoch fod #Pen 3:7, 10pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Ioan 2: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.