1 Ioan 1
1
A.D. Gwedi 90. —
1 Y mae efe yn gosod allan berson Crist, yn yr hwn y mae i ni fywyd tragwyddol, trwy gymdeithas â Duw. 5 Rhaid i ni ymroi i sancteiddrwydd buchedd, i dystiolaethu gwirionedd y gymdeithas honno, a’n ffydd: a hefyd i’n sicrhau ein hunain o faddeuant pechodau, trwy farwolaeth Crist.
1Yr #Ioan 1:1hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, #Ioan 1:14; 2 Pedr 1:16; Pen 4:14yr hyn a edrychasom arno, ac #Luc 24:39; Ioan 20:27a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd; 2(Canys y bywyd #1 Tim 3:16a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, #Ioan 1:1, 2yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;) 3Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist. 4A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, #2 Ioan 12fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 5#Pen 3:11A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai #Ioan 1:9; 8:12; 9:5; 12:35, 36goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. 6#Pen 2:4Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd: 7Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a #1 Cor 6:11; Heb 9:14; 1 Pedr 1:19; Dat 1:5gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. 8#1 Bren 8:46; 2 Cron 6:36; Diar 20:9; Preg 7:20; Iago 3:2Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. 9#Salm 32:5; Diar 28:13Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. 10Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Ioan 1: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society