2 Pedr 3
3
A.D. 66. —
1 Y mae yn eu sicrhau hwy am ddyfodiad Crist i’r farn, yn erbyn y gwatwarwyr a ymresymai yn y gwrthwyneb; 8 gan rybuddio y rhai duwiol i brysuro eu hedifeirwch, o ran hir‐amynedd Duw. 10 Y mae yn dangos pa fodd y dinistrir y byd: 11 ac yn eu hannog i sancteiddrwydd buchedd, trwy ddisgwyl hynny: 15 a hefyd i feddwl, mai er mwyn eu hiachawdwriaeth hwynt y mae Duw yn oddefgar, megis yr ysgrifennodd Paul atynt.
1Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; #3:1 ym mhob un o’r ddau.yn yr hwn #Pen 1:13yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi: 2Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr: 3#1 Tim 4:1; 2 Tim 3:1; Jwdas 18Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. 4Ac yn dywedyd, #Esa 5:19; Jer 17:15; Esec 12:22, 27Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau #3:4 fel hyn.fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. 5Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai #Gen 1:6, 9; Salm 33:6trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear #Salm 24:2; 136:6; Col 1:17yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. 6#Gen 7:11Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. 7Eithr #Ad. 10y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw #2 Thess 1:8i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. 8Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, #Salm 90:4 fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. 9#Hab 2:3; Heb 10:37Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond #Esa 30:18hirymarhous yw efe tuag atom ni, #Esec 18:23, 32; 33:11heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond #Rhuf 2:4; 1 Tim 2:4dyfod o bawb i edifeirwch. 10Eithr #Mat 24:43; 1 Thess 5:2; Dat 3:3; 16:15dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn #Salm 102:26; Esa 51:6; Mat 24:35; Rhuf 8:20; Dat 20:11; 21:1y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r #3:10 elfennau.defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. 11A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12Yn disgwyl ac yn #3:12 prysuro dyfodiad.brysio at ddyfodiad dydd Duw, #3:12 trwy yr.yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r #3:12 elfennau.defnyddiau gan wir wres a doddant? 13Eithr #Esa 65:17; 66:22; Dat 21:1, 27nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. 14Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau #1 Cor 1:8; 15:58; Phil 1:10; 1 Thess 3:13; 5:23ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. 15A chyfrifwch #Rhuf 2:4; 1 Pedr 3:20; Ad. 9hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; 16Megis yn ei holl epistolau hefyd, #Rhuf 8:19; 1 Cor 15:24; 1 Thess 4:15yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. 17Chwychwi gan hynny, anwylyd, a #Marc 13:23chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. 18Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac #3:18 hyd ddydd tragwyddoldeb.yn dragwyddol. Amen.
Zur Zeit ausgewählt:
2 Pedr 3: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society