Zephaniah 3:14-20

Cân, ferch Seion; gwaedda'n uchel, O Israel; llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, a symud dy elynion. Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nid ofni ddrwg mwyach. Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem, “Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo; y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol, yn rhyfelwr i'th waredu; fe orfoledda'n llawen ynot, a'th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chân fel ar ddydd gŵyl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o'i blegid. Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth. Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.
Seffaneia 3:14-20