Titus 2:11-15

Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da. Dywed y pethau hyn, a chymell a cherydda â phob awdurdod. Peidied neb â'th anwybyddu.
Titus 2:11-15