Romans 4:6-8

Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.”
Rhufeiniaid 4:6-8