Romans 4:1-8

Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef? Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus. Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder. Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.”
Rhufeiniaid 4:1-8