Romans 11:33-36

O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd! Oherwydd, “Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Pwy a fu'n ei gynghori ef? Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd, i gael rhodd yn ôl ganddo?” Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
Rhufeiniaid 11:33-36